Dywedodd Paul Kay, Pennaeth Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub y Gogledd: "Dywed y Cod mai dim ond rhwng y 1af o Hydref a'r 31ain o Fawrth mewn ardaloedd ucheldirol a rhwng y 1af o Dachwedd a'r 15fed o Fawrth mewn mannau eraill y caniateir llosgi.
"Bydd llawer o ffermwyr yn manteisio ar y cyfle i losgi grug, glaswellt, rhedyn ac eithin ar eu tir nawr fod y tymor llosgi rheoledig wedi dechrau - rydym yn deall yr angen am hyn ond rydym am dynnu sylw at bwysigrwydd dilyn y Cod Llosgi Grug a Glaswellt ac i roi gwybod ini cyn ymgymryd ag unrhyw losgi rheoledig.
"Yn ogystal â ffermwyr, rydym yn ymwybodol bod deiliaid tai weithiau yn llosgi sbwriel neu eitemau diangen ar eu tir, yn aml yn eu gardd gefn. Nid ydym yn cynghori yr arfer hwn ac rydwi’n rhybuddio y gall tanau ledaenu'n gyflym a gallant fod yn hynod anrhagweladwy. Byddem yn apelio ar drigolion i gael gwared ar eu gwastraff mewn ffordd gyfrifol a defnyddio safleoedd gwastraff yr awdurdodau lleol lle bo hynny'n bosibl. Os oes rhaid i chi losgi, yna gwnewch hynny mewn modd cyfrifol, gan sicrhau bod mesurau rheoli addas yn eu lle, ac ystyried yr effaith bosib ar eiddo cyfagos."
Os ydych yn cynllunio llosgi rheoledig, dilynwch y canllawiau isod:
- Ffoniwch ystafell reoli GTAGC ar 01931 522006 i roi gwybod iddyn nhw am amser a lleoliad y llosgi
- Sicrhewch fod gennych ddigon o bobl ac offer i reoli'r tân
- Edrychwch ar gyfeiriad y gwynt a sicrhewch nad oes perygl i eiddo, ffyrdd a bywyd gwyllt
- Os yw tân yn mynd allan o reolaeth cysylltwch â'r gwasanaeth tân ac achub gan roi manylion lleoliad a mynediad yn syth
- Gwnewch yn siŵr bod tân wedi ei ddiffodd yn llwyr cyn i chi ei adael a gwiriwch y diwrnod canlynol i sicrhau nad yw wedi ailgynnau
- Cofiwch - Mae'n anghyfreithlon gadael tân heb ei oruchwylio neu heb fod â digon o bobl i'w reoli.
Dilynwch ein cyngor a gwyliwch ein fideo yma ar sut i losgi'n ddiogel.