Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Ymgyrch recriwtio diffoddwyr tân llawn amser wedi’i lansio

Ymgyrch recriwtio diffoddwyr tân llawn amser wedi’i lansio

Postiwyd

Ydych chi erioed wedi ystyried swydd fel Diffoddwr Tân Llawn Amser?

Ymgyrch recriwtio wedi’i lansio – ymunwch â’n tîm!

 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn paratoi i agor ffenestr recriwtio ar gyfer diffoddwyr tân llawn amser.

Bydd cofrestru ar gyfer ceisiadau ar-lein yn agor am hanner dydd Dydd Mercher 17 Gorffennaf ac yn cau am hanner dydd Dydd Llun 22 Gorffennaf.

Dywedodd Mike Owen, Rheolwr Ardal Ymateb: "Wrth baratoi ar gyfer yr ymgyrch, rydyn ni'n cynnal digwyddiadau 'Diwrnodau Darganfod’ a ‘Ffitrwydd Tân - gallwch ddarganfod mwy fan hyn. Mae lleoedd yn gyfyngedig ac mae galw mawr amdanynt, felly archebwch yn gynnar!

“Byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth ar yr hyn sydd ei angen i fod yn ddiffoddwr tân wrth i'r dyddiad agor agosáu – gan gynnwys sesiwn holi ac ateb fyw ar Facebook Dydd Mawrth, 16 Gorffennaf am 6:00y.h.

“Yn y cyfamser, gallwch ddarganfod mwy am rôl diffoddwr tân ar ein gwefan yma

“Ein nod yw recriwtio gweithlu sy'n adlewyrchu amrywiaeth y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu, sydd yn ein helpu i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i bobl Gogledd Cymru.

“Credwn nad oes y fath beth â diffoddwr tân arferol ac rydym yn annog pobl o bob cefndir i roi cais i mewn.

“Mae diogelu ein cymunedau wrth wraidd popeth a wnawn. Ar yr un pryd, rydym yn gwerthfawrogi ein pobl – byddwn yn eich cefnogi i gyrraedd eich potensial llawn, beth bynnag eich cefndir.

“Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol am wybodaeth ychwanegol. Mae gan ein gwefan hefyd gyfoeth o wybodaeth i ymgeiswyr am yr hyn sydd ei angen i ddod yn ddiffoddwr tân llawn amser."

Pan yn fyw, fe fydd y porth cofrestru ar gael ar y tudalen yma.

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen