Mae criwiau yn mynychu dau dân arall mewn peiriant sychu dillad mewn 24 awr
PostiwydMae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ailadrodd apêl i drigolion sicrhau eu bod yn defnyddio peiriannau sychu dillad yn ddiogel a bod ganddynt larymau mwg gweithredol wedi’u gosod ar ôl dau dân arall yn ymwneud â pheiriannau sychu dillad mewn cyfnod o 24 awr.
Galwyd criwiau i dân yn ymwneud â sychwr dillad mewn tŷ allan yng Nghaernarfon am 2:06 bore ddoe (9fed Ebrill) ac yna i dân yn ymwneud â sychwr dillad ym Mynytho brynhawn ddoe am 16:51.
Achoswyd difrod difrifol i'r tŷ ym Mynytho, lle'r oedd dau o'r trigolion hefyd angen archwiliadau rhagofalus yn yr ysbyty yn dilyn y tân.
Mae hyn yn dilyn tân ym Mrychdyn a ddifrododd ddau eiddo ar y 25ain o Fawrth, tân yn Ninbych ar y 6ed o Fawrth, ym Mwcle ar y 3ydd o Fawrth ac yn Rhuthun ar yr 28ain o Chwefror.
Roedden nhw i gyd yn cynnwys peiriannau sychu dillad.
Dywedodd Paul Kay, Pennaeth Diogelwch Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Gall tân fod yn ddinistriol i bawb dan sylw - gan achosi difrod ac aflonyddwch ac yn yr achosion gwaethaf, colli bywyd.
“Rydym yn apelio ar drigolion i ddilyn rhai camau syml y dylem i gyd fod yn eu cymryd wrth ddefnyddio ein peiriannau sychu dillad i helpu pawb i gadw’n ddiogel.”
Mae'r camau hyn yn cynnwys:
- Peidiwch â gorlwytho socedi plwg - mae’r watedd uchel ar gyfer peiriant sychu dillad yn golygu bod angen ei soced 13-amp ei hun arno.
- Cadwch lygad am unrhyw olion llosgi neu losgiadau, gan gynnwys gwirio unrhyw wifrau trydanol gweladwy.
- Peidiwch â gadael offer heb oruchwyliaeth – peidiwch â throi'r peiriant sychu dillad ymlaen cyn i chi adael y tŷ neu fynd i'r gwely. Mae peiriannau sychu dillad yn cynnwys moduron pwerus gyda rhannau sy'n symud yn gyflym a all fynd yn boeth iawn.
- Cadwch eich sychwr wedi'i awyru'n dda, gwnewch yn siŵr bod y bibell awyru yn rhydd o finc ac nad yw wedi'i rhwystro na'i malu mewn unrhyw ffordd.
- Glanhewch yr hidlydd bob amser ar ôl defnyddio'ch peiriant sychu dillad.
- Dylech bob amser ganiatáu i bob rhaglen sychu, gan gynnwys y 'cylch oeri', gwblhau'n llawn cyn gwagio'r peiriant. Os byddwch yn stopio'r peiriant yng nghanol y cylch, bydd y dillad yn dal yn boeth.
- Peidiwch ag anwybyddu’r arwyddion rhybudd – os gallwch arogli llosgi neu os bydd dillad yn teimlo’n boethach ar ddiwedd y cylch, peidiwch â defnyddio’ch teclyn a gofynnwch i weithiwr proffesiynol ei wirio.
Ychwanegodd Paul: “Yn bwysicaf oll – gwnewch yn siŵr bod gennych larwm mwg sy’n gweithio a’i brofi’n rheolaidd – rydym yn argymell unwaith yr wythnos.
“Dylech hefyd sicrhau bod gennych gynllun dianc ar eich cyfer chi a’ch teulu pe bai tân yn digwydd – ac unwaith y byddwch allan o’r tŷ, dylech bob amser aros allan, a pheidiwch byth â mynd yn ôl i mewn.
“Nid oes unrhyw duedd wedi’i nodi hyd yma gyda gwneuthuriad / modelau - y peth pwysicaf yw bod yr holl breswylwyr yn dilyn ein cyngor diogelwch wrth ddefnyddio pob peiriant sychu dillad.
"Rydym yn cynnal adolygiad mewnol o bob digwyddiad i ddeall yn well a oes unrhyw gydberthynas."