Dihangfa lwcus yn dilyn tri thân popty mewn llai na 12 awr - cadwch yn ddiogel y Nadolig hwn
PostiwydCadwyd ein criwiau yn brysur yn mynychu tri thân yn ymwneud â phoptai ddoe (22.12.22)
Roedd larwm yn canu rhybudd pan oedd padell wedi ei gadael ar yr hob mewn eiddo yn Ninbych am 12.28 o'r gloch ddoe pan nad oedd neb gartref – roedd dau griw yn bresennol.
Roedd dau ddigwyddiad arall yn ymwneud â ’kiten roll’ yn cael eu gadael ar yr hob – un yn y Rhyl am 21.01awr a fynychwyd gan ddau griw a bu’n rhaid i chwech o bobl adael eu fflatiau, ac un yn y Waun am 21.09awr pan fynychodd dau griw a bu’n ofynnol i 3 o bobl adael yr eiddo.
Felly, neges y Nadolig hwn gennym ni yma yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru – cymerwch ofal arbennig. Nid ydym am i dân ddifetha eich Nadolig.
Gwyddom fod mwy o danau yn digwydd yn y gegin nag mewn unrhyw ystafell arall yn y cartref - a gwelwn gynnydd yn y tanau hyn yn ystod cyfnod y Nadolig.
Dim ond un gwrthdyniad bach y mae'n ei gymryd i dân gynnau. Peidiwch byth â gadael coginio heb neb i ofalu amdano a pheidiwch ag yfed wrth coginio – a gofalwch eich bod yn gofalu am deulu, ffrindiau neu gymdogion oedrannus neu fregus.
Dilynwch ein deuddeg awgrym ar gyfer diogelwch tân dros yr ŵyl:
- Gwnewch yn siŵr fod goleuadau eich coeden Nadolig yn cydymffurfio â’r Safon Brydeinig. Defnyddiwch RCD bob amser ar offer trydanol awyr agored (dyfais ddiogelwch all achub bywydau drwy ddiffodd y pŵer yn syth).
- Peidiwch byth â gosod canhwyllau’n agos at eich coeden Nadolig, dodrefn neu lenni. Peidiwch â’u gadael yn cynnau os nad oes rhywun yn yr ystafell.
- Gwnewch yn siŵr fod eich teulu ac ymwelwyr sy’n aros gyda chi dros gyfnod yr ŵyl yn gwybod beth i’w wneud mewn argyfwng. Cofiwch ymarfer cynllun dianc o’r adeilad.
- Gall addurniadau losgi’n hawdd – Peidiwch â’u gosod ar oleuadau neu wresogyddion.
- Diffoddwch offer trydanol pan nad ydynt yn cael eu defnyddio, os nad ydynt wedi eu cynllunio i aros ymlaen.
- Cymerwch ofal arbennig gyda goleuadau Nadolig. Diffoddwch y goleuadau a thynnu’r plwg o’r soced cyn mynd i’r gwely. Rydym yn defnyddio mwy o eitemau trydanol yn ystod y Nadolig – peidiwch â gorlwytho socedi a phlygiau ond defnyddiwch socedi lluosog ar lid sydd â’r ffiws priodol ar gyfer mwy nag un offer.
- Mae’r mwyafrif o dannau’n digwydd yn y gegin – peidiwch byth â gadael yr ystafell tra mae bwyd yn coginio. Dathlwch y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yn ddiogel. Mae’r risg o ddamweiniau, yn arbennig yn y gegin, yn uwch wedi yfed alcohol.
- Os ydych chi’n bwriadu dathlu gyda thân gwyllt, storiwch hwy mewn bocs metel, darllenwch y cyfarwyddiadau, peidiwch byth â dychwelyd at dân gwyllt sydd wedi ei oleuo a chadwch fwced o ddŵr wrth law.
- Gwnewch yn siŵr fod sigarennau wedi eu diffodd yn llwyr.
- Gwiriwch y batri yn eich larymau mwg bob wythnos a defnyddiwch y Nadolig fel adeg i’ch atgoffa i’w glanhau a chael gwared â llwch. Gallwch gofrestru am wiriad diogel ac iach, sy'n rhad ac ddim, yma.
- Gwnewch yn siŵr fod canhwyllau, tanwyr a matsis allan o gyrraedd plant.
- Gwnewch amser i gadw golwg ar berthnasau a chymdogion hŷn y Nadolig yma – gwnewch yn siŵr eu bod hwy’n ddiogel rhag tân hefyd, yn ogystal â meddwl am eu lles.