Apelio ar bobl i gael larymau mwg yn dilyn tân yn Llangollen
PostiwydAeth dau beiriant o Wrecsam, un o Langollen ac un o Groesoswallt at dân mewn eiddo yn ardal Llangollen am 2.22pm ddoe (dydd Llun 16 Awst). Roedd y tân dan reolaeth erbyn 3.20pm a chadwyd yr adnoddau ar y safle tan 5:48pm.
Credir bod y tân wedi cynnau yn y gegin, o ganlyniad i nam trydanol ar y peiriant golchi llestri.
Dywedodd Adam Leatham o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Doedd dim larymau mwg yn yr eiddo i roi rhybudd cynnar o’r tân. Mae’n hanfodol bod yn barod ar gyfer y gwaethaf – gwnewch yn siŵr fod gennych larwm mwg a pheidiwch ag amharu arno. Os nad yw’n gweithio, cysylltwch â ni ac fe wnawn ni eich helpu.
“Gall larwm mwg gweithredol roi amser angenrheidiol i chi fynd allan, aros allan a galw 999. Cadwch eich hun a’ch anwyliaid yn ddiogel drwy brofi eich larwm yn rheolaidd a thrwy gynllunio ac ymarfer llwybr dianc.”
“Rydym yn cynnig archwiliadau diogel ac iach yn rhad ac am ddim i bawb sy’n byw yn yr ardal - bydd aelod o’r Gwasanaeth yn rhoi awgrymiadau a chynghorion, yn eich helpu i greu cynllun dianc rhag tân, ac yn darparu larymau newydd - y cyfan am ddim.
“I gofrestru i gael archwiliad diogel ac iach, ffoniwch ein rhif Rhadffon rhwng 9am a 5pm ar 0800 169 1234, anfonwch neges e-bost i cfs@nwales-fireservice.org.uk neu ewch i’r wefan, sef www.tangogleddcymru.llyw.cymru”.