Tân mewn eiddo ym Miwmares
PostiwydYn fuan wedi 9 o’r gloch y bore (Dydd Sadwrn 20fed Chwefror) derbyniom alwad i fynd at dân sylweddol mewn tŷ yn Ffordd Meigan, Biwmares. Roedd yr wybodaeth gychwynnol yn awgrymu bod pobl yn yr eiddo, ond cadarnhawyd yn ddiweddarach nad oedd hyn yn wir a bod y preswylwyr yn ddiogel.
Nid oedd criwiau llawn ar gael ym Mhorthaethwy na Biwmares pan dderbyniwyd yr alwad. Mae’r rhain yn orsafoedd tân rhan amser sy’n cael eu criwio gan ddiffoddwyr tân ‘ar-alw’. Mae’r diffoddwyr hyn yn cael eu galw at ddigwyddiadau o’r cartref neu o’r gwaith.
Oherwydd lefelau staffio isel o ganlyniad i drafferthion recriwtio, staff yn gadael y Gwasanaeth a staff ddim ar gael oherwydd eu prif gyflogaeth, mae darparu ymateb brys llawn amser yn heriol yn yr ardal hon.
Anfonwyd criw cyfunol o Borthaethwy a Biwmares at y digwyddiad a chawsant eu cefnogi gan ddau griw o Fangor a’r peiriant cyrraedd yn uchel o’r Rhyl.
Mae ymchwiliad tân ar y gweill rhwng Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru, ond mae Heddlu Gogledd Cymru eisoes wedi arestio dau oedolyn mewn perthynas â’r digwyddiad.
Meddai Stuart Millington, Prif Swyddog Tân Cynorthwyol: “Hoffwn gymeradwyo’r ystafell reoli am feddwl yn gyflym a rhybuddio criwiau Porthaethwy a Biwmares a lwyddodd wedyn i gyfuno eu criwiau a mynd ati i daclo’r tân mor gyflym â phosibl. Hoffwn hefyd ddiolch i’r diffoddwyr tân a aeth at y digwyddiad am weithio’n galed i ddod â’r tân dan reolaeth ac atal difrod i dai cyfagos.
“Wrth gwrs, byddai’n well gennym gael criw llawn ym mhob un o’n gorsafoedd tân bob amser, ond mae hyn yn mynd yn anoddach mewn ardaloedd llai poblog yng Ngogledd Cymru.”
Meddai Charles Brimecombe, Rheolwr Gwylfa ym Miwmares: “Mae demograffeg Biwmares wedi newid dros y blynyddoedd diwethaf. Mae nifer o dai nawr yn dai haf neu’n cael eu defnyddio fel lletyai gwyliau dros fisoedd yr haf. O ganlyniad i hyn mae’r tai lle byddai recriwtiaid posib yn byw ynddynt nawr yn wag y rhan fwyaf o’r flwyddyn, neu wedi eu meddiannu gan bobl ar eu gwyliau. Mae hefyd yn anodd recriwtio diffoddwyr tân yn ardal Biwmares gan nad oes llawer o gyfleoedd cyflogaeth yno.
“Er hynny, mae ymgyrch recriwtio a gynhaliwyd yn gynnar yn 2020 wedi arwain at nifer fach o recriwtiaid posibl, ond oherwydd y pandemig COVID mae wedi bod yn anodd cyflawni’r holl brofion angenrheidiol gyda’r recriwtiaid hyn. Mae dyddiadau wedi eu neilltuo yn 2021 ar gyfer parhau â’r gwaith recriwtio a fu’n rhaid ei ohirio oherwydd y pandemig. Mae ymgyrch arall ar y gweill i gyd-fynd ag Wythnos Genedlaethol Ar-Alw ym mis Mawrth ac mae gorsafoedd Porthaethwy a Biwmares yn orsafoedd blaenoriaeth ar gyfer recriwtio.”
Fe ychwanegodd Gwyn Williams, Rheolwr Gwylfa ym Mhorthaethwy: “Mae’n dod yn anoddach dod â chriw at ei gilydd yn ystod y dydd. Mae’r dyddiau hynny lle byddai prif gyflogwyr yn rhyddhau personél o’r gwaith i fynd at alwadau wedi hen fynd. Rydym wedi bod yn recriwtio ym Mhorthaethwy ac mae 12 â diddordeb mewn ymuno. Fodd bynnag, oherwydd Covid-19 a’r modd y mae wedi effeithio ar hyfforddiant mae wedi bod yn anodd cynnal lefelau criwio.
“Oherwydd hyn dydi’r darpar recriwtiaid ddim wedi dechrau efo ni eto. Hefyd, mae cydweithwyr ar yr orsaf wedi ymddeol o’r Gwasanaeth yn ddiweddar ac felly dim ond nifer gyfyngedig o bersonél sydd gennym ar ôl i griwio’r peiriant. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod gorsaf dân Porthaethwy ar gael i’r gymuned ac rwyf yn ffyddiog y bydd y bobl sydd wedi dangos diddordeb mewn ymuno â’r tîm, yn gallu gwneud hynny wedi i’r cyfyngiadau Covid-19 gael eu codi ac wedi i’r cyrsiau hyfforddi gofynnol ailgychwyn yn llawn.”
Os hoffech fwy o wybodaeth ar ddod yn ddiffoddwr tân ‘ar-alw’ ewch i’n gwefan www.gwastan-gogcymru.org.uk
Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio yng ngorsafoedd Aberdyfi, Abersoch, Amlwch, y Bala, Biwmares, Benllech, Betws y Coed, Cerrigydrudion, Corwen, Harlech, Llangefni, Llanrwst, Porthaethwy, Porthmadog, Llanelwy a Thywyn.