Erfyn ar drigolion i gymryd pwyll yn dilyn tân mewn tŷ yn Sealand
PostiwydMae swyddog Tân yn rhybuddio trigolion am beryglon gadael eitemau’n gwefru yn dilyn tân yn Sealand y bore yma (Dydd Iau 28ain Mai).
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ei alw at dân mewn eiddo yn East Green, Sealand am 11.06am. Anfonwyd injan o Lannau Dyfrdwy a Bwcle at y digwyddiad ac fe ddefnyddiodd y criwiau ddwy set o offer anadlu a phibellau tro i daclo’r tân.
Cafodd merch ifanc ei chludo i’r ysbyty ac fe achosodd y tân ddifrod mwg sylweddol i’r ystafell wely ac ychydig o ddirfod mwg yng nghyntedd yr eiddo.
Meddai Jane Honey, Rheolwr Diogelwch Cymunedol: “Mae’r preswylwyr yn ffodus iawn bod y tân wedi digwydd yn ystod y dydd a’u bod wedi llwyddo i fynd allan o’r eiddo. Fe allai’r sefyllfa fod wedi bod yn un wahanol iawn petai’r tân wedi digwydd yn ystod y nos, pan oeddent yn cysgu. Cawsant eu rhybuddio am y tân gan larwm mwg a oedd wedi ei osod yn yr eiddo.
“Dilynwch ein cyngor wrth wefru cyfarpar.”
- Defnyddiwch y gwefrwr a ddaeth gyda’r eitem
- Os oes raid i chi brynu gwefrwr newydd, prynwch un dilys o siop dibynadwy. Mae nifer o eitemau ffug ar y farchnad ac mae’n anodd iawn eu gwahaniaethu.
- Peidiwch â storio, defnyddio na gwefru batris mewn tymheredd uchel iawn neu isel iawn.
- Gofalwch rhag ofn i’ch batris gael eu gwasgu, tyllu neu eu gorchuddio gyda dŵr
- Peidiwch â gadael eitemau yn gwefru dragywydd ar ôl iddynt orffen gwefru - mae’n well peidio â gadael eitemau’n gwefru dros nos
- Peidiwch byth â gorchuddio gwefrwyr na dyfeisiadau gwefru
- Peidiwch â gorlwytho socedi
- Gosodwch larwm mwg a’i gynnal a’i gadw - os digwydd tân, dim ond ychydig funudau fydd gennych chi i ddianc. Fe all larwm mwg roi digon o gyfle i chi fynd allan, aros allan a galw 999.
- Mae’n hanfodol gwneud yn siŵr bod gennych chi gynllun dianc cyfarwydd a llwybr dianc sydd yn glir o rwystrau, er mwyn i chi allu mynd allan mor gyflym â phosib mewn achos o dân.