Dyn yn marw mewn tân mewn eiddo ym Mrynegwlys
PostiwydMae dyn wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ ger Corwen.
Galwyd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru at dân mewn eiddo ym Mhenrhos, Bryneglwys am 21.01 o’r gloch Ddydd Gwener 15 Mai.
Anfonwyd dwy injan dân o Wrecsam, ac un o Gorwen a pheiriant cyrraedd yn uchel o Wrecsam at y tân. Defnyddiodd y criwiau bedair set o offer anadlu a thair pibell dro i daclo’r tân.
Daeth diffoddwyr tân o hyd i gorff dyn y credir ei fod yn ei 60au yn yr eiddo.
Mae achos y tân yn destun ymchwiliad gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru.
Mae criw llanw o Ruthun yn dal i fod ar y safle'r bore yma (Dydd Sadwrn 16 Mai) yn delio gyda mannau poeth.