Tân ar Ystad Ddiwydiannol Wrecsam
PostiwydMae diffoddwyr tân mewn digwyddiad ar Ffordd Rhydfudr, Ystad Ddiwydiannol Wrecsam. Daeth yr alwad am 4.26am heddiw (Dydd Sadwrn 23 Mai).
Mae tri pheiriant o Wrecsam, dau o Lannau Dyfrdwy, Llangollen, Johnstown, peiriant ALP, uned amddiffyn yr amgylchedd ac uned rheoli digwyddiad yno y bore ’ma.
Gofynnir i aelodau’r cyhoedd gadw draw o’r digwyddiad tra mae’r diffoddwyr tân yn delio â’r tân. Dylai unrhyw eiddo gerllaw gadw eu drysau a’u ffenestri ar gau.