Dangos cefnogaeth i #ProjectEdward
Postiwyd“Sero marwolaethau ar y ffyrdd” - dyma yw’r neges gan yr heddlu a’u partneriaid wrth iddynt ymuno ag ymgyrch ar hyd Ewrop i leihau anafiadau a marwolaethau ar y ffyrdd.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi gwneud addewid diogelwch y ffyrdd ar gyfer ymgyrch Prosiect Edward - sef ‘Diwrnod Heb Farwolaeth ar Ffyrdd Ewrop’ - wedi creu gan TISPOL (Rhwydwaith Heddlu Traffig Ewropeaidd) er mwyn tynnu sylw at y ffaith fod tua 70 o farwolaethau ar ffyrdd Ewrop pob diwrnod.
Mae’r diwrnod yn cael ei gynnal ar ddydd Iau'r 26ain o Fedi ac mae lluoedd yr heddlu ac asiantaethau cyfraith a threfn ar draws Ewrop yn cymryd rhan drwy godi ymwybyddiaeth o’r goblygiadau a’r ymddygiadau mwyaf peryglus gan yrwyr drwy eu hannog i gymryd yr addewid syml.
Meddai’r Prif Uwcharolygydd Neill Anderson, Pennaeth Gwasanaethau Cefnogi Gweithredol: “Mae lleihau anafiadau yn flaenoriaeth i Heddlu Gogledd Cymru. Rydym eisiau i bob defnyddiwr ffordd gymryd amser i feddwl am eu gyrru er lles diogelwch pawb.
“Mae Prosiect Edward yn helpu hyn drwy annog defnyddwyr ffyrdd i gymryd amser i feddwl am eu hagwedd ac ymddygiad ac i feddwl am ddiogelwch - boed fel gyrrwr, beicwyr modur, cerddwyr, beicwyr neu farchogwyr.
“Mae gyrru diofal yn cyfuno i wneud ein ffyrdd yn anniogel hefo goryrru, gyrru heb wregys, defnyddio ffôn symudol, cyffuriau ac alcohol a gyrru’n ddiofal - un o’r elfennau 5 Angheuol sy’n dylanwadu hyn.
“Dyma pam rydym yn canolbwyntio ar y rhai sy’n anwybyddu’r gyfraith ac eraill, rydym angen cyfleu’r neges fod y troseddau yma yn annerbyniol. Mae gan bawb ran i’w chwarae a chymryd yr amser i edrych allan am ein gilydd.”
Ychwanegodd y Prif Uwcharolygydd Anderson: “Yn anffodus mae Gogledd Cymru wedi gweld cryn dipyn o wrthdrawiadau angheuol a difrifol dros y misoedd diwethaf. Mae’r gwasanaethau brys yn gweld y trychinebau sy’n dod o wrthdrawiadau. Un o’r swyddi anoddaf i heddwas yw ymweld â theuluoedd a dweud wrthynt fod un annwyl iddynt wedi marw. Mae’n anoddach i deuluoedd ddelio â hyn pan gall y farwolaeth fod wedi gallu cael ei hosgoi.”
Mae cydweithwyr o’r gwasanaethau brys eraill wedi cyfuno er mwyn gwneud yr addewid i gefnogi Prosiect Edward.
Meddai Dermot O’Leary, Arweinydd Tîm Clinigol a Phencampwr Diogelwch y Ffyrdd ar gyfer Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Mae criwiau yn dyst i nifer o wrthdrawiadau angheuol a difrifol ar ffyrdd Gogledd Cymru. Dyna pam rydym yn ymuno â Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru drwy gefnogi Prosiect Edward ar y 26ain o Fedi. Ymunwch â ni er mwyn gweld diwedd ar wrthdrawiadau angheuol.”
Meddai Justin Evans, Pennaeth yr Adran Diogelwch Cymunedol, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Fel diffoddwyr tân rydym yn gweld yr hyn sy’n digwydd ar ôl gwrthdrawiadau. Gall ein ffyrdd fod yn llefydd peryglus, sy’n arwain at anafiadau difrifol a marwolaethau.
“Drwy newid agwedd gallwn wneud ein pentrefi, trefi a dinasoedd yn llefydd mwy diogel. Mae pob gweithred yr ydym yn ei wneud – fel gyrrwr neu deithiwr – yn gallu newid canlyniad taith a dyfodol teulu. Rydym yn gwbl gefnogol i Brosiect Edward sy’n ceisio gwella diogelwch ar ein ffyrdd.”
Bydd gwaith gorfodaeth targed yr heddlu o amgylch y 5 Angheuol yn parhau ar draws y rhanbarth a gall defnyddwyr tudalennau cymdeithasol ddilyn yr hashnod #ProjectEdward er mwyn dysgu mwy am yr ymgyrch.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy wefan yr ymgyrch <http://www.projectedward.eu> neu gallwch eu dilyn ar Twitter drwy @ProjectEdward