Ffenics yn ysbrydoli pobl ifanc Sir Conwy
PostiwydCymerodd pobl ifanc o Ysgol Y Creuddyn, Bae Penrhyn rhan yng nghwrs arloesol Ffenics y Gwasanaeth Tân ac Achub yr wythnos ddiwethaf.
Nod y prosiect yw delio â materion gyda phobl ifanc sy’n amrywio o hunan-barch isel a diffyg hyder i ymddygiad gwrth-gymdeithasol a/neu broblemau gyda thân megis cynnau tanau bwriadol a galwadau ffug.
Mae prosiect Ffenics yn herio agweddau presennol ac yn hyrwyddo meddwl yn annibynnol mewn pobl ifanc gan ddefnyddio gweithgareddau’r gwasanaeth tân i ddatblygu nodweddion personol megis gweithio fel tîm, archwilio eithafion corfforol a meddyliol a hyrwyddo ac addysgu pobl ifanc ynglŷn â rôl y gwasanaeth tân ac achub.
Cynhaliwyd y cwrs yng Ngorsaf Llanfairfechan.
Meddai Pam Roberts, Cydgysylltydd Ffenics: "Mae’r Gwasanaeth Tân ac Achub yn denu pobl ifanc, sy’n rhoi cyfle i ni geisio dylanwadu ar eu hymddygiad.
“Mae prosiect Ffenics yn cynnig profiad unigryw, i feithrin nodweddion rydym ni fel Gwasanaeth yn gweithio tuag atynt, megis parch, cyfathrebu ac ymddiriedaeth.
“Mae’r wythnos wedi cynnwys cymysgedd o ddysgu yn y dosbarth, lle’r oedd y bobl ifanc yn dysgu canlyniadau gweithredoedd, yna gweithgareddau yn y iard ymarfer lle rydym yn hybu gweithio gyda’n gilydd fel tîm, asesu risg a glynu at gyfarwyddiadau.
“Caiff sgiliau a ddysgwyd yn ystod yr wythnos eu harddangos mewn seremoni o gyflawniad, gyda Phrif Swyddog, aelodau’r Awdurdod Tân, rhieni, gwarcheidwaid a staff o’r ysgol yn bresennol.
“Amcanion pellach y cwrs yw cynorthwyo’r bobl ifanc i gryfhau eu cymhelliad a theimlo’n fwy cadarnhaol, sydd yn eu tro yn eu gwneud yn well dinasyddion.
"Rydym yn gobeithio bod mynd ar y cwrs ysbrydoledig hwn wedi gwneud gwahaniaeth i fywydau’r bobl ifanc hyn, ac y byddant yn mynd â’r gwersi pwysig a ddysgwyd yn ôl gyda nhw a’u rhannu gyda theulu a ffrindiau.”