Mellten yn taro eiddo yn Wrecsam
PostiwydGalwyd dau griw o Wrecsam at eiddo yn Bowling Bank, Wrecsam am 1.25 o’r gloch y bore yma (Dydd Mercher 24ain Gorffennaf).
Fe ddefnyddiodd y diffoddwyr tân ddwy set o offer anadlu a dwy bibell dro jet i ddiffodd y tân.
Roedd y digwyddiad dan reolaeth erbyn 2.17 o’r gloch y bore.
Roedd y tân yn nho’r eiddo a chredir ei fod wedi ei gynnau gan fellten. Achoswyd difrod tân 50% i’r to a difrod dŵr yng ngweddill yr eiddo.
Llwyddodd y preswylwyr i fynd allan o’r tŷ cyn i’r criwiau tân gyrraedd ac ni chafodd unrhyw un ei anafu.