Digwyddiad ar Ystad Ddiwydiannol Wrecsam
PostiwydCafodd criwiau o Wrecsam eu galw i Ystad Ddiwydiannol Wrecsam yn oriau mân y bore. Cafodd y safle ei wagio'n llwyr yn dilyn adwaith mewn proses ddiwydiannol, a chafodd swyddog arbenigol ei anfon gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i roi cymorth i'r staff ar y safle. Mae'r cynnyrch dan sylw wedi cael ei gyfyngu, ac mae'r digwyddiad wedi cyrraedd y camau terfynol.