Tîm Cymorth Cymunedol yn dathlu blwyddyn
PostiwydFlwyddyn yn ôl, cydweithredodd y gwasanaethau argyfwng yng Ngogledd Cymru a lansio menter newydd wedi ei hanelu at amddiffyn pobl yn eu cartrefi.
Mae’r Tîm Cymorth Cymunedol bellach wedi mynychu 640 o gwympiadau di-anaf a 96% o’r amser mae hyn wedi golygu nad oedd angen i ambiwlans argyfwng fynychu, gan ryddhau dros 900 awr i barafeddygon fedru mynychu argyfyngau eraill.
Mae’r peilot wedi bod yn rhedeg yng Nghonwy a Sir Ddinbych a hefyd wedi ei ymestyn i Sir y Fflint a Wrecsam yn ystod cyfnod o bwysau ychwanegol yn ystod y gaeaf.
Nod y fenter yw lleihau’r nifer o bobl sydd angen mynd i’r ysbyty o ganlyniad i gwympo, gan leihau’r pwysau a’r galw ar wasanaethau ambiwlans a meddygol.
Mae’r tîm yn cynnwys aelodau staff wedi eu hyfforddi’n llawn, wedi eu recriwtio o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru sydd â’r gallu i ddarparu gwasanaeth rhagorol a gwell profiad i gleifion.
Meddai Stuart Millington, Uwch Swyddog Diogelwch Tân gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Rydym yn hapus iawn gyda sut mae’r fenter hon wedi datblygu dros y 12 mis diwethaf, ac yn falch bod ein tîm wedi medru cynorthwyo mwy na 600 o bobl heb orfod galw ambiwlans allan.
“Mae manteision gweithio gyda gwasanaethau argyfwng a chyhoeddus eraill yn amlwg, o ran arbedion ariannol ac o ran cyflenwi gwell gwasanaethau i’n cymunedau.
“Trwy ymateb fel tîm arbengol i gwympiadau di-anaf fel hyn, rydym yn gobeithio lliniaru peth o’r pwysau hwnnw, ynghyd â darparu gwasanaeth llawer gwell.
“Yn ystod y peilot, cafodd y tîm hyfforddiant gan Heddlu Gogledd Cymru ar sut i chwilio am bobl sydd ar goll o’u cartrefi ynghyd â chynnig cyngor ar atal troseddau pan roeddem yn yr eiddo.”
Dywedodd Mark Timmins, Arweinydd Cydweithredu’r Tri Gwasanaeth yng Ngogledd Cymru gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Mae’r Tîm Cymorth Cymunedol yn enghraifft berffaith o sut y gall y gwasanaethau argyfwng weithio gyda’i gilydd i wella gofal cleifion a diogelwch cymunedol.
"Cyfeirir pob claf ar gyfer cymorth i’r dyfodol trwy ein llwybr cwympo os yn briodol, ac mae’r tîm hefyd wedi darparu archwiliadau diogelwch a lles sy’n cynnwys cryfhau targedau a chyngor ar rwystro trosedd."
Cefnogir y fenter gan Lywodraeth Cymru ar y cyd â’r tri gwasanaeth argyfwng, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Galw Gofal / Care Connect, a Gwasanaeth Monitro Galwadau Rhanbarthol Gogledd Cymru. Caiff y gwasanaeth ei arwain trwy ystafell reoli’r Gwasanaeth Ambiwlans, felly nid oes angen i’r cyhoedd wneud unrhyw beth gwahanol i fel o’r blaen, ond os yw’n briodol, anfonir y Tîm Cymorth Cymunedol yn hytrach nag ambiwlans. Mae’r fenter hon ac eraill eisoes wedi eu cydnabod yng Ngwobrau Cymunedol Gwelliannau Parhaus Cymru Gyfan 2016 yn y categori ‘Cydweithredu’ a ddathlodd lwyddiant Tîm Prosiect Rhwystro ac Ymateb y Tri Gwasanaeth.
O ganlyniad i lwyddiant y flwyddyn gyntaf, mae’r Gwasanaeth nawr yn ceisio sicrhau’r cyllid angenrheidiol i barhau, a chyflwyno’r gwasanaeth ymateb gwerthfawr hwn ledled Gogledd Cymru.