Tasglu amlasiantaethol yn llwyddo i leihau nifer y tanau glaswellt yng Nghymru
PostiwydMae nifer y tanau glaswellt sy'n cael eu cynnau'n fwriadol yng Nghymru wedi lleihau'n ddramatig er 2015 – ac mae Bwrdd Lleihau Tanau Bwriadol Cymru yn cydnabod mai dull cydweithredol ei dasglu amlasiantaethol, Ymgyrch Dawns Glaw, sy'n gyfrifol am y gostyngiad.
Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Strategol Lleihau Tanau Bwriadol Cymru, Dirprwy Brif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Mick Crennell:
"Yn dilyn y cynnydd annerbyniol yn nifer y tanau glaswellt a gafodd eu cynnau'n fwriadol ledled Cymru yn 2015, datblygodd Bwrdd Strategol Lleihau Tanau Bwriadol Cymru strategaeth newydd a oedd yn ailganolbwyntio ymdrechion yn yr ardal ac yn ehangu'r cyfrifoldeb am weithgarwch lleihau tanau bwriadol yng Nghymru i amrywiaeth o bartneriaid amlasiantaethol.
"O ganlyniad i'r dull partneriaeth hwn, gwelwyd gostyngiad sylweddol yn nifer y tanau glaswellt a gafodd eu cynnau'n fwriadol ledled Cymru, gyda gostyngiad o 47% yn 2016 o gymharu â 2015 – ac, yn fwyaf nodedig, gostyngiad o 75% ym mis Ebrill 2016 o gymharu â mis Ebrill 2015.
"Yn anffodus, mae ein ffigurau dros dro hyd yma eleni yn dangos cynnydd bach o 6% o gymharu â'r un cyfnod yn 2016. Mewn termau real, mae hyn yn gyfystyr ag oddeutu 70 yn fwy o ddigwyddiadau wedi'u cofnodi na'r llynedd. Ond er mwyn gosod hyn mewn cyd-destun, mae eleni wedi bod yn llawer mwy sych na'r un cyfnod y llynedd. Rydym hefyd wedi gweld cryn dipyn yn llai o law yn ystod misoedd cyntaf y flwyddyn, o gymharu â'r un cyfnod y llynedd, ac o ganlyniad i aeaf sych, roedd y rhedyn yn llawer mwy sych ar ddechrau'r tymor llosgi dan reolaeth, a oedd yn ddelfrydol ar gyfer llwytho tanau. Mae'n fwy nodedig i ni gymharu ffigurau eleni â ffigurau 2015, lle mae'r ffactorau amgylcheddol allanol yn debycach, sy'n dynodi gostyngiad o 44%, hynny yw 940 yn llai o achosion o danau glaswellt bwriadol yn 2017 o gymharu â 2015.
"Rydym yn argyhoeddedig bod ymgysylltu â phobl ifanc trwy ymyraethau wedi'u targedu, er enghraifft mentrau addysg, rhaglenni ymyrraeth ieuenctid, a phatrolau gweledol iawn, wedi bod yn allweddol i'n llwyddiant. Weithiau, gall y math hwn o ddigwyddiad ymddangos yn dipyn o hwyl i bobl ifanc, ond rydym wedi gweithio'n galed i amlygu'r risgiau posibl y gallant eu peri i'r cyhoedd, y diffoddwyr tân sy'n ymladd y tanau, yn ogstal â'r sawl sy'n cynnau'r tanau.
"Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'n partneriaid i addysgu a hysbysu pobl ifanc am ganlyniadau eu gweithredoedd, fel y gallwn barhau i adeiladu ar ein llwyddiant flwyddyn ar ôl blwyddyn."
Fodd bynnag, er gwaethaf ei lwyddiant, mae'r tasglu'n benderfynol o barhau â'i ymdrechion i leihau nifer yr achosion o danau glaswellt yng Nghymru, boed yn rhai damweiniol neu'n rhai bwriadol. Wrth i fisoedd yr haf agosáu, mae'r tasglu'n atgoffa'r cyhoedd i fod yn wyliadwrus pan fyddant allan yn mwynhau cefn gwlad, ac i fod yn ymwybodol o beryglon tanau bach yn ymledu ac yn achosi difrod i dir amaethyddol, cnydau, bywyd gwyllt ac eiddo, ac o beryglon cynnau a thaflu deunyddiau barbeciw ac ysmygu.
Eleni, mae'r tasglu hefyd wedi canolbwyntio ar weithio gyda thirfeddianwyr a ffermwyr ledled Cymru i geisio lleihau nifer yr achosion o losgi dan amodau rheoledig, sydd naill ai'n cael eu cynnal yn anghyfreithlon (y tu allan i'r cyfnod llosgi cyfreithiol), neu sy'n mynd allan o reolaeth yn ddamweiniol. O ganlyniad i'r gwaith hwn, ddydd Mercher (14 Mehefin) bydd y tasglu amlasiantaethol yn cynnal digwyddiad yn Llanfair-ym-Muallt, lle bydd yn arddangos dulliau arloesol o gael gwared ar redyn ac, yn y pen draw, o leihau llwytho tanau.
Dywedodd yr Ysgrifennydd dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant: “Mae tanau glaswellt bwriadol yn gallu bod yn ddinistriol. Maent yn peryglu bywyd dynol, yn peryglu eiddo, ac yn lladd da byw a bywyd gwyllt. Ond trwy gydweithio mor agos dros y ddwy flynedd diwethaf, mae ein gwasanaethau tân ac achub, yr heddlu, Llywodraeth Cymru, ac asiantaethau eraill wedi llwyddo i ostwng yn ddramatig nifer y tanau hyn. Diolch iddynt am eu gwaith, a llongyfarchiadau iddynt ar lwyddiant Ymgyrch Dawns Glaw hyd yma. Fodd bynnag, mae rhagor o waith i'w wneud, ac mae'n braf iawn gweld y prosiect yn symud ymlaen i weithio gyda ffermwyr a thirfeddianwyr i leihau nifer y tanau a reolir sy'n mynd allan o reolaeth."
Dywedodd Pennaeth Corfforaethol Atal ac Amddiffyn Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, a Chadeirydd Ymgyrch Dawns Glaw, Mydrian Harries:
"Mae màs cynyddol rhedyn yn effeithio ar amaethyddiaeth yr ucheldir, gan effeithio'n andwyol ar dwristiaeth yr ucheldir a bygwth ansawdd cyflenwadau dŵr gwledig. Rhedyn hefyd yw'r prif ffactor sy'n cyfrannu at achosion o danau gwyllt mewn rhai rhannau o Gymru. Fel tasglu, rydym ar hyn o bryd yn ystyried dulliau arloesol o gael gwared ar redyn, a gallai'r defnydd o fecaneiddio arbenigol ar y llethrau fod yn ddull gweithredu y byddwn yn ei gefnogi. Byddai gallu defnyddio'r offer i dorri bylchau tân yn y rhedyn yn galluogi tirfeddianwyr i leihau faint o lystyfiant sych sydd ar y llethrau, ac, yn y pen draw, yn lleihau'r risg o danau gwyllt ar eu tir."
Dim ond un o feysydd ffocws Cyd-grŵp Lleihau Tanau Bwriadol Cymru yw Ymgyrch Dawns Glaw. Fel rhan o'i benderfyniad i gydweithio i ddileu pob achos o dân bwriadol yng Nghymru, mae'r grŵp wedi cyhoeddi ei Strategaeth Lleihau Tanau Bwriadol yng Nghymru, sy'n nodi dull amlasiantaethol o sicrhau gostyngiad cyson yn nifer yr achosion o danau bwriadol ledled Cymru.
Ychwanegodd y Dirprwy Brif Swyddog, Mick Crennell: "Rydym wedi cael llwyddiant sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf, ac rydym yn falch iawn o'r hyn a gyflawnwyd trwy lawer iawn o benderfyniad a gwaith caled ar ran yr holl asiantaethau dan sylw.
"Mae ein strategaeth newydd yn adeiladu ar yr wybodaeth a'r profiad yr ydym wedi eu cael dros y blynyddoedd diwethaf – rydym yn cydnabod gwerth annog ein cymunedau i weithio gyda ni i rannu cyfrifoldeb ac i annog newid diwylliannol ledled Cymru, fel bod pawb yn ystyried tanau bwriadol yn gymdeithasol annerbyniol. Byddwn yn cymryd camau i gefnogi'r agwedd gadarnhaol hon, yn ogystal â newid diwylliannol parhaol, er mwyn creu Cymru y bydd pob un ohonom am fyw a gweithio ynddi, neu ymweld â hi, 'nawr ac yn y dyfodol."
Cliciwch yma i ddarllen Strategaeth Lleihau Tanau Bwriadol Cymru - Cadw Cymru'n Wyrdd
Cefndir:
O ganlyniad i nifer y tanau glaswellt a gafodd eu cynnau'n fwriadol ledled Cymru yn 2015 (gyda'r nifer ar ei uchaf yn y gwanwyn), cafodd Cyd-grŵp Tanau Bwriadol Cymru (JAG) y dasg o sefydlu tasglu aml-asiantaethol penodedig i fynd i'r afael â'r mater, a hynny gan Fwrdd Lleihau Tanau Bwriadol Cymru (SARB). Aeth y tasglu ati i ddwyn ynghyd dîm o arbenigwyr o amrywiaeth o asiantaethau allweddol i gyd-asesu gweithgarwch tanau glaswellt bwriadol, a'i effaith yng Nghymru, yn ogystal â sefydlu mesurau ymyrryd i leihau a, lle bo hynny'n bosibl, ddileu effaith y tanau hyn ar ein cymunedau.
Partneriaid Ymgyrch Dawns Glaw:
Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Heddlu Dyfed-Powys, Heddlu De Cymru, Heddlu Gwent, Heddlu Gogledd Cymru, Y Swyddfa Dywydd, Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru