Tân angheuol ym Mlaenau Ffestiniog
PostiwydMae ymchwiliad ar waith ar ôl tân angheuol mewn tŷ ym Mlaenau Ffestiniog neithiwr (9fed Hydref).
Yn fuan ar ôl 8.30pm hysbyswyd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru bod tŷ ar dân yn Nhrem y Benar, Blaenau Ffestiniog.
Defnyddiodd diffoddwyr tân o Flaenau Ffestiniog a Phorthmadog offer anadlu a chwistrell ddŵr i fynd i mewn i’r adeilad, ond yn drist cafwyd hyd i ddynes oedrannus a oedd wedi marw.
Mae ymchwiliad ar y cyd nawr ar y gweill rhwng Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru i ganfod achos y tân.
Nid oes manylion pellach ar gael ar hyn o bryd.