Dau’n marw mewn tân mewn eiddo yn Neganwy
PostiwydCafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ei alw i dân mewn eiddo yn Gannock Park West, Deganwy am 7.42am y bore yma (Dydd Mawrth 16eg Awst).
Cafodd criw o Landudno a Bae Colwyn eu hanfon i’r digwyddiad ac fe ddefnyddiodd y diffoddwyr tân bedair set o offer anadlu a dwy bibell dro i ddiffodd y tân.
Yn anffodus bu farw dyn a dynes yn y tân. Llwyddodd dynes arall i ddianc o’r eiddo cyn i’r diffoddwyr tân gyrraedd.
Mae ymchwiliad ar y cyd rhwng Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru nawr ar y gweill.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cau’r ffordd o ganlyniad i’r tân ac maent yn gofyn i’r cyhoedd osgoi’r ardal.
Nid oes rhagor o wybodaeth ar hyn o bryd.