Aros yn ddiogel wrth fwynhau twrnamaint Euro 2016
PostiwydMae Euro 2016 UEFA yn dechrau yn Ffrainc dydd Gwener ac mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn apelio i’r cyhoedd i feddwl am ddiogelwch wrth fwynhau’r gemau.
Meddai Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân:"Rydym eisiau i’n cymuned leol gofio Euro 2016 am y rhesymau iawn, ac rydym yn annog pobl i ystyried diogelwch pan maent yn mwynhau’r twrnamaint cyffrous hwn.
"Coginio yw achos pennaf tanau damweiniol yn y cartref – ac mae canran uchel o’r tanau hyn yn cael eu hachosi gan bobl sydd dan ddylanwad alcohol.
"Mae alcohol yn effeithio synnwyr cyffredin a gallu ac felly rydym yn apelio i gefnogwyr pêl droed i osgoi coginio ar ôl yfed a meddwl am y gwahanol bethau a all dynnu sylw ac arwain at dân, marwolaeth, anaf yn y cartref neu wrthdrawiad ar y ffordd.”
Mae Stuart yn rhoi’r cyngor canlynol:
Peidiwch ag yfed a choginio – cefnogwch eich siop prydau parod leol, archebwch fwyd neu gofynnwch i rywun goginio bwyd i chi.
Sicrhewch bod pethau fel baneri neu deganau gwynt Euro 2016 ddigon pell i ffwrdd o ffynonellau gwres.
- Peidiwch ag yfed a gyrru – cerddwch , gofynnwch am lifft, neu defnyddiwch dacsi. Os ydych mewn grŵp trefnwch bod un yn gyrru a chymryd eich tro i yrru.
Sicrhewch nad yw baneri ar gerbydau wedi eu gosod fel y gallant dynnu sylw’r gyrrwr neu ei rwystro ef neu unrhyw yrrwr arall ar y ffordd rhag gweld yn iawn.
Mae cyngor pellach ar ddiogelwch tân a ffordd ar gael yma