Cadarnhad bod tân mynydd Dwygyfylchi yn un bwriadol
PostiwydCadarnhad bod tân mynydd Dwygyfylchi yn un bwriadol
Cadarnhawyd bellach bod y tân mynydd yn Nwygyfylch yn un bwriadol.
Mae diffoddwyr tân unwaith eto’n annog pobl i stopio a meddwl am ganlyniadau tanau glaswellt ar ôl i’r tân yma alw am adnoddau gwerthfawr am gyfnod amser sylweddol a bygwth diogelwch eiddo gerllaw.
Cynghorwyd pobl sy’n byw yn yr ardal o gwmpas i gau ffenestri a drysau i rwystro’r mwg rhag mynd i mewn i’w cartrefi.
Galwyd criwiau i’r tân mawr ar fynydd Allt Wen yn Nwygyfylchi, Penmaenmawr ar ddydd Sadwrn 4ydd Mehefin am 22.45 o’r gloch – roedd diffoddwyr tân yn dal yno, yn delio gyda ac yn monitro’r tân tan 17.48 o’r gloch ar ddydd Mawrth 7fed Mehefin.
Meddai Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: “Cawsom nifer o alwadau mewn perthynas â thân Dwygyfylchi a hoffwn ddiolch i’r bobl hynny am weithredu mewn dull diogel a chyfrifol.
“Yn anffodus, mae wedi dod yn amlwg ers hynny bod y tân yn weithred fwriadol felly rydym nawr yn atgoffa pobl bod cynnau tân yn drosedd.
“Mae ein neges yn syml. Mae tanau bwriadol yn drosedd ddifrifol – bydd y sawl sy’n gyfrifol yn cael eu dal a wynebu grym llawn y gyfraith.
“Mae cynnau tân glaswellt bwriadol yn peryglu difetha eich bywyd gyda chofnod troseddol am ddim rheswm o gwbl. Nid ‘chydig o hwyl’ yw tanau o’r fath – maent yn peryglu bywydau pobl ac anifeiliaid, yn bygwth cartrefi a bywydau. Mae tanau bwriadol yr un mor annerbyniol yn gymdeithasol ag yfed a gyrru ac rydym yn gweithio ar draws yr asiantaethau lluosog i ddelio â’r tanau hyn ac amddiffyn a sicrhau cymunedau.
“Hoffwn hefyd atgoffa pobl bod y tywydd sych yn ddiweddar wedi cynyddu perygl tanau mewn ardaloedd gwledig, a’r perygl eu bod yn datblygu’n gyflym iawn, gyda’r potensial i ymledu’n gyflym a mynd allan o reolaeth.
“Dylai ymwelwyr â chefn gwlad gymryd gofal ychwanegol pan fyddant allan i leihau perygl tân mewn tywydd sych – bod yn gyfrifol wrth daflu sigaréts i ffwrdd, osgoi cynnau tân yn yr awyr agored a gwaredu barbeciws yn ddiogel."
Ychwanegodd y Prif Arolygydd Paul Joyce o Heddlu Gogledd Cymru: “Mae cynnau tanau gwair yn fwriadol yn drosedd a gall y canlyniadau fod yn bellgyrhaeddol.
“Mae tanau bwriadol yn peryglu bywydau, gallant roi llawer o bwysau ar adnoddau’r gwasanaethau brys a gallant ddinistrio mynyddoedd a lladd bywyd gwyllt. Hefyd mae’r rhai hynny sy’n cynnau tanau’n fwriadol mewn risg o gael cofnod troseddol.”
“Hoffwn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth neu sydd wedi gweld unrhyw weithgaredd amheus i gysylltu â ni drwy ffonio 101 a dyfynnu’r cyfeirnod U083078.”