Cadwch yn ddiogel wrth wylio Cwpan y Byd
Postiwyd
Mae Cwpan Rygbi’r Byd 2015 ar fin cychwyn yn Twickenham heno ac mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn erfyn ar i’r cyhoedd gadw diogelwch tân mewn cof wrth fwynhau’r twrnamaint.
Meddai Stuart Millington, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: "Rydym am i’r gymuned leol gofio Cwpan y Byd 2015 am y rhesymau cywir, ac rydym yn erfyn ar i bobl gadw diogelwch mewn cof wrth fwynhau’r twrnamaint cyffrous hwn.
"Mae coginio ymhlith un o brif achosion tanau damweiniol yn y cartref – ac mae nifer uchel o’r tanau coginion hyn wedi eu hachosi gan drigolion sydd dan ddylanwad alcohol.
"Mae alcohol yn effeithio ar ein synnwyr cyffredin a’n gallu ac felly rydym yn erfyn ar i ddilynwyr rygbi beidio â choginio ar ôl bod yn yfed a meddwl am yr amrywiol bethau a all achosi tân, marwolaethau neu anafiadau yn y cartref neu mewn gwrthdrawiadau ar y ffyrdd."
Dyma air i gall gan Stuart:
- Peidiwch ag yfed a choginio – cefnogwch eich siop tecawê lleol, archebwch fwyd i’ch cartref neu gofynnwch i rywun goginio bwyd i chi.
- Gwnewch yn siŵr bod fflagiau ac eitemau llenwi â gwynt ac ati yn cael eu cadw ymhell o ffynonellau gwres.
- Peidiwch ag yfed a gyrru – cerddwch, gofynnwch am lifft, archebwch dacsi neu rhannwch y baich o yrru os ydych mewn grŵp.
- Gwnewch yn siŵr nad ydy baneri ar gerbydau yn amharu ar y gyrrwr neu yrwyr eraill ar y ffordd.
Am ragor o gyngor ar ddiogelwch tân ewch i http://www.nwales-fireservice.org.uk/keeping-you-safe/?lang=cy