Gwrthdrawiad traffig yn Nolgellau
PostiwydCafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru o Ddolgellau, y Bermo a’r Bala eu galw i wrthdrawiad rhwng dau gerbyd ger tŷ tafarn y Cross Foxes yn Nolgellau am 7:55 o’r gloch y bore yma.
Roedd y gwrthdrawiad yn cynnwys pedwar o deithwyr a bu’n rhaid i un ohonynt gael ei dorri allan o’r cerbyd.
Bu’n rhaid i ddiffoddwyr tân gau’r ffordd oherwydd pryderon ynglŷn â diogelwch, gan gynghori’r cyhoedd i gadw draw.
Fe ddefnyddiodd y criwiau un bibell dro i ddiffodd tân mewn un o’r cerbydau.
Roedd Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn bresennol. Llwyddwyd i ddod o hyd i’r holl deithwyr. Bu’n rhaid i un o’r teithwyr gael ei gludo i’r ysbyty gan yr ambiwlans awyr, a chafodd y tri theithiwr arall hefyd eu cludo i’r ysbyty mewn ambiwlans.
Mae’r criwiau tân wedi cwblhau eu gwaith ac maent wedi diogelu’r safle. Mae’r holl deithwyr bellach dan ofal y Gwasanaeth Ambiwlans.