Gweithredu yn erbyn cwmni sgip yng ngogledd Cymru
PostiwydMae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cymryd camau yn erbyn cwmni sgip yng Ngogledd Cymru oherwydd y risg o lygredd difrifol ar ei safle.
Mae Porthmadog Skip Hire wedi bod yn storio llawer mwy o wastraff nag sy'n ganiataol ar ei iard ac mae hyn bellach yn cael ei ystyried yn risg o lygredd sylweddol, yn arbennig os yw'n mynd ar dân.
Fe dderbyniodd y cwmni hysbysiad cyfreithiol i'w hatal rhag cymryd mwy o goed neu wastraff pydradwy ar ei safle yn Stad Ddiwydiannol Penamser, Porthmadog. Fodd bynnag, fe apeliodd y cwmni yn erbyn yr hysbysiad hwnnw hydref diwethaf.
Bellach mae'r Arolygiaeth Gynllunio wedi cadarnhau rhybudd CNC ac ni all y cwmni dderbyn fwy o bren neu wastraff pydradwy ar y safle nes iddo gydymffurfio ag amodau ei drwydded amgylcheddol.
Os fyddai'r deunydd yn llosgi gallai'r mwg effeithio ar bobl gerllaw, byddai'r gost o ddod a'r tân o dan reolaeth yn sylweddol a gallai'r dwr ffo lygru cyrsiau dwr lleol.
Yn flaenorol mae Porthmadog Skip Hire wedi methu cwrdd â gofynion rhybuddion cyfreithiol oddi wrth CNC i leihau swm o wastraff ar y safle ac wedi parhau i dderbyn gwastraff ar y safle heb leihau'r swm oedd yno'n barod.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru hefyd wedi codi pryderon sylweddol am y safle ac wedi cyhoeddi Hysbysiad o Ddiffygion Mawr sy'n amlygu'r materion sydd angen ei datrys er mwyn lleihau'r risg o dân.
Dywedodd David Powell, Rheolwr Gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru, "Mae'r penderfyniad i atal pren a gwastraff pydradwy rhag dod i'r safle yn gam terfynol, ond mae'n achosi perygl i bobl a'r amgylchedd ym Mhorthmadog.
"Mae gan safleoedd gwastraff drwydded yn nodi'r rheolau mae'n rhaid ei dilyn, fel nad ydynt yn peri risg i'r amgylchedd a phobl leol.
"Rhoesom gyfle i'r cwmni hwn i gydymffurfio â'r amodau yn eu trwydded ond nid ydynt wedi gwneud hyn."
Yn ôl amodau'r drwydded amgylcheddol gall Porthmadog Skip Hire gadw 5,000 tunnell o wastraff y flwyddyn ar ei safle a'i storio mewn mannau priodol.
Ond mae CNC yn amcangyfrif bod yna 7,800 tunnell o wastraff ar y safle sydd ddim yn cael ei storio'n iawn ar hyn o bryd.
Dywedodd Geraint Hughes, Rheolwr Diogelwch y Sir, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Gall sefyllfaoedd fel hyn gyflwyno risg sylweddol helaethach o dân. Mae'n ddyletswydd arnom i ddiogelu'r cyhoedd rhag peryglon o'r fath ac i gydweithio er mwyn ceisio mynd i'r afael â hwy.
"Gallai tân ar y safle hwn glymu llawer o'n hadnoddau am gyfnod sylweddol o amser, rhoi bywydau ein diffoddwyr tân a'r cyhoedd mewn perygl, yn ogystal ag achosi niwed anwrthdroadwy i'r amgylchedd.
"Y pryder mwyaf i ni yn yr achos penodol hwn fyddai'r posibilrwydd o dân o'r fath yn lledaenu i eiddo cyfagos - ac mae hyn yn risg na allwn ei anwybyddu."