Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwneud diogelwch tân yn Adduned Blwyddyn Newydd

Postiwyd

Mae Uwch Swyddog o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn diolch i drigolion a ddilynodd eu negeseuon diogelwch tân dros gyfnod y Nadolig, ac mae nawr yn gofyn i bawb yn y rhanbarth wneud hyn yn Adduned Blwyddyn Newydd er mwyn amddiffyn eu cartrefi.

 

Tra bod yr ŵyl yn dod i ben nawr, mae digon o ddathlu o’n blaenau gyda’r dathliadau Nos Calan yn digwydd yng nghartrefi llawer heno. Trwy gymryd rhai camau sylfaenol, gall pobl amddiffyn eu hanwyliaid a’u heiddo, ac mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn annog trigolion i  sicrhau bod mwy o ddiogelwch tân yn un o’u haddunedau Blwyddyn Newydd.

 

Meddai

Gary Brandrick o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Rwy’n gobeithio bod pawb wedi mwynhau eu Nadolig a’u bod yn edrych ymlaen i’r dathliadau Nos Calan.

 

“Bu’n gyfnod prysur i lawer o’n staff a’n criwiau gyda'r llifogydd yn y rhanbarth – hoffwn dalu teyrnged i’w gwaith caled mewn amgylchiadau anodd iawn. Derbyniodd ein hystafell reoli 311 o alwadau ynglŷn â llifogydd rhwng Noswyl y Nadolig a heddiw, gyda chriwiau yn gweithio’n ddiflino i helpu i warchod ein cymuned. Mae’r galwadau hyn, wrth gwrs, ar ben digwyddiadau argyfwng eraill megis tanau mewn eiddo, ceir ar dân a gwrthdrawiadau traffig ffordd.

 

“Gwelsom nifer o ddigwyddiadau difrifol yn y cartref dros yr ŵyl – llawer yn ymwneud â choginio. Rhwng Noswyl y Nadolig a bore heddiw, aethpwyd i 11 o danau mewn eiddo domestig – 5 yn ymwneud â choginio. Peidiwch byth, byth â gadael bwyd yn coginio heb fod yno yn yr ystafell – dim ond ychydig o funudau mae’n ei gymryd i dân bach droi’n un sy’n bygwth bywydau. Mae coginio ar ôl yfed hefyd yn gofyn am drwbwl. Achosir tanau dirifedi bob blwyddyn ar ôl i bobl yfed alcohol a phenderfynu coginio pryd bach iddyn’ nhw eu hunain cyn mynd i’r gwely.

 

“Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i bawb a ddilynodd ein cyngor ar ddiogelwch, gan osgoi tân yn eu cartref dros y Nadolig.

“Mae hefyd yn bwysig atgoffa pobl bod tân yn y cartref yn risg go iawn gyda chanlyniadau erchyll yn aml, nid yn unig dros yr ŵyl ond trwy gydol y flwyddyn.

 

“Gofynnwn i bawb gymryd munud neu ddau i ddilyn ein cyngor ar ddiogelwch a sicrhau eu bod yn cael Blwyddyn Newydd hapus go iawn, i’w chofio am y rhesymau iawn.”

 

Mae cyngor ar gyfer aros yn ddiogel y gaeaf hwn yn cynnwys:

 

- Sicrhau bod gennych larwm mwg sy’n gweithio ar bob llawr o’ch cartref. Gall larwm mwg sy’n gweithio roddi’r amser hollbwysig sydd ei angen arnoch i ddianc os oes tân. Profwch y larwm yn rheolaidd a pheidiwch byth â thynnu’r batris allan.

- Peidiwch â gadael bwyd yn coginio. Mae mwyafrif tanau yn y cartref yn dechrau yn y gegin felly mae’n medru bod yn lle peryg. Dylech osgoi coginio pan ydych dan ddylanwad alcohol, a diffoddwch gyfarpar cegin ar ôl gorffen gyda nhw.

- Peidiwch â gadael canhwyllau ar eu pennau eu hunain. Gwnewch yn siŵr eu bod mewn cynhwysydd priodol, allan o gyrraedd plant a digon pell oddi wrth ddeunyddiau fflamadwy megis llenni, goleuadau a gwresogyddion.

- Gwnewch yn siŵr bod sigaréts wedi eu diffodd yn iawn a chymerwch ofal os ydych yn yfed alcohol neu wedi blino. Mae’n hawdd syrthio i gysgu pan fydd sigarét yn dal i losgi, a rhoi dodrefn ar dân.

- Peidiwch â gorlwytho socedi – un plwg fesul soced bob tro. Diffoddwch blygiau pan nad ydynt yn cael eu defnyddio, ar wahân i rai sydd i fod i aros ymlaen, megis oergell.

- Gwnewch yn siŵr bod pawb yn y tŷ yn gwybod beth i’w wneud os oes tân – os oes tân, ewch allan, arhoswch allan a ffoniwch 999. I gael mwy o gyngor ar ddiogelwch tân, ewch i www.nwales-fireservice.org.uk

 

I gael cyngor ar risgiau diogelwch tân, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch cartref yn rhad ac am ddim. Bydd aelod o’r Gwasanaeth yn ymweld â’ch cartref, yn ymgymryd ag asesiad diogelwch, ac os oes angen, yn gosod larymau mwg newydd yn rhad ac am ddim.

 

"Mae’r archwiliadau hyn ar gael yn rhad ac am ddim i holl drigolion Gogledd Cymru. I ofyn am archwiliad, ffoniwch ein llinell rhadfffon 24 awr ar 0800 169 1234, ebostiwch cfs@nwales-fireservice.org.uk , ewch i’n gwefan www.nwales-fireservice.org.uk a gadael eich manylion cyswllt, a bydd aelod o’r Gwasanaeth yn cysylltu â chi i drefnu amser cyfleus i ymweld â’ch cartref."

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen