Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn atgoffa'r cyhoedd i Feddwl yn Ddiogel, Coginio'n Ddiogel!
PostiwydMae swyddogion tân yn rhybuddion ynglyn â pheryglon gadael bwyd yn coginio heb neb i gadw llygaid arno yn dilyn nifer o danau cegin dros y tridiau diwethaf.
Mae criwiau wedi cael eu galw i danau cegin yng Nghei Conna, Pwllheli, Llangefni, y Rhyl a dau yn ardal Wrecsam ers dydd Sadwrn.
Meddai Justin Evans, Rheolwr Ymateb: "Coginio yw un o brif achosion tanau damweiniol yn y cartref yng Ngogledd Cymru, dro ar ôl tro rydym yn cael ein galw i danau yn y cartref sydd wedi cychwyn yn y gegin - mae'n hawdd iawn anghofio am fwyd sydd yn coginio, yn enwedig os ydych wedi blino, os oes rhywbeth yn mynd â'ch sylw, neu os ydych wedi bod yn yfed. Ond fe all y canlyniadau fod yn drychinebus.
"Anghofio diffodd y pentan, gadael bwyd yn y ficrodon yn rhy hir, gorboethi sosban sglodion, llosgi tost, gadael y popty ymlaen - fe all y rhain greu cawlach yn y gegin a hyd yn oed achosi anafiadau difrifol neu'n waeth byth, ladd rhywun."
Dyma air i gall gan Justin ynglyn â sut i gadw'n ddiogel yn y gegin:
Os oes raid i chi adael yr ystafell tynnwch y bwyd oddi ar y gwres
Peidiwch â defnyddio matsis na thanwyr i danio poptai nwy. Mae dyfeisiadau tanio yn llawer mwy diogel
Gwnewch yn siwr nad ydi dolenni sosbenni yn mynd dros ochr y popty
Cadwch y popty, pentan a'r gridyll yn lân - fe all saim sydd wedi casglu fynd ar dân
yn hawdd iawn
Peidiwch byth â hongian dim byd uwch ben y popty
Cymrwch bwyll os ydych yn gwisgo dillad llac - gallant fynd ar dân yn hawdd iawn
Ar ôl i chi orffen coginio gwnewch yn siwr bod popeth wedi ei ddiffodd
Diffoddwch gyfarpar trydan os nad ydych yn eu defnyddio
Peidiwch byth â defnyddio sosban sglodion - defnyddiwch ffrïwr saim dwfn sydd
gan thermostat i reoli'r gwres
Gosodwch larymau mwg - maent ar gael yn rhad ac ddim a gallant achub eich
bywyd.
Cofiwch fod Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref yn rhad ac am ddim, a'n bod yn gosod larymau mwg newydd yn rhad ac am ddim, galwch ein llinell ffôn 24 awr 0800 1691243, anfonwch e-bost i dtc@gwastan-gogcymru.org.uk, ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk, neu anfonwch neges destun i 88365, gan ddechrau'r neges gyda'r gair HFSC.