Tân mewn rhes o dai yng Nghaergybi
PostiwydMae diffoddwyr tân wedi bod yn delio â thân mewn rhes o dai yn Ffordd Feurig, Caergybi.
Galwyd criwiau i'r digwyddiad am 22.14 o' gloch ar 28 Gorffennaf pan anfonwyd pedwar o beiriannau o Gaergybi, Rhosneigr a Llangefni, ynghyd â pheiriant ag ysgol ac esgynlawr o Fangor, i'r digwyddiad.
Roedd y diffoddwyr tân yn wynebu tân a oedd wedi datblygu, yn effeithio gofod to tri tŷ yn y rhes. Defnyddiwyd pedair set o offer anadlu a dwy bibell ddŵr i ymladd y tân a'i rwystro rhag ymledu. Roedd niwed arwyddocaol i'r to ar un o'r tai.
Gadawodd deg o bobl o bedwar eiddo yn y rhes ond nid oedd angen trin unrhyw un am anafiadau.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru yn ymgymryd ag ymchwiliad ar y cyd i ganfod union amgylchiadau'r tân.