Diweddariad - Tân mewn adeilad ailgylchu yn Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam
PostiwydMae'r tân mewn adeilad ailgylchu yn Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam, Lôn Bryn, Wrecsam wedi ei ddiffodd.
Roedd tri chriw o Wrecsam, a chriw o Fwcle, Glannau Dyfrdwy a Johnstown yn bresennol ynghyd â'r Uned Meistroli Digwyddiadau o'r Rhyl. Derbyniwyd yr alwad am 11.56 o'r gloch heddiw, Dydd Mawrth Ebrill 15.
Fe effeithiodd y tân ar ran o'r adeilad sydd wrthi'n cael ei adeiladu ar hyn o bryd. Mae'r cludfelt yn cael ei gadw yno.
Fe ddefnyddiodd diffoddwyr tân offer anadlu, pibellau tro a phibellau dŵr i ddiffodd y tân ac maent yn fentio'r adeilad ar hyn o bryd.
Mae ymchwiliad i achos y tân ar y gweill.