Tân mewn tŷ tafarn ym Mangor
PostiwydAnfonwyd peiriannau tân o Fangor, Llanfairfechan a Biwmares a'r peiriant cyrraedd yn uchel i ddigwyddiad mewn tŷ tafarn yn Stryd y Ffynnon, Bangor am 3.31 o'r gloch y bore yma (Dydd Sul 30ain Mawrth).
Cafodd chwech o bobl eu cludo i'r ysbyty mewn ambiwlans. Fe ddioddefodd un dyn losgiadau ac anafiadau mewnol ar ôl neidio o'r ail lawr. Roedd hefyd yn dioddef o effeithiau anadlu mwg. Y mae bellach wedi ei gludo i ysbyty ym Mirmingham.
Roedd dau o swyddogion yr heddlu hefyd yn dioddef o effeithiau anadlu mwg ond y maent wedi cael eu rhyddhau o'r ysbyty erbyn hyn.
Mae criwiau'n dal i fod yn bresennol.