Lansio cangen newydd Cymdeithas y Diffoddwyr Tân Ifanc ym Mhwllheli
PostiwydY mae cangen newydd o Gymdeithas y Diffoddwyr Tân ifanc (YFA) dan arweiniad Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi ei sefydlu ym Mhwllheli.
Y mae'r YFA yn sefydliad ieuenctid sydd yn cael ei redeg gan y Gwasanaeth Tân ac Achub, mewn partneriaeth â Chymdeithas Hyfforddi Ieuenctid y Gwasanaeth Tân, sef elusen gofrestredig sydd yn cael ei staffio gyda gweithwyr ieuenctid proffesiynol.
Cafodd y gangen newydd o'r YFA ei sefydlu yn 2013, ac yr wythnos hon cafodd y bobl ifanc, ynghyd â'u teulu a'u ffrindiau, eu gwahodd i'r orsaf dân i ddathlu cyrhaeddodd y chwe chadét cyntaf.
Mae croeso i bobl ifanc rhwng 11 a 17 ymuno gyda'r YFA ac y mae cangen Pwllheli dan arweiniad y diffoddwr tân Neil Shilvock. Y mae'n dilyn yn nhrywydd ei gydweithwyr yn Amlwch, Biwmares, y Waun, Conwy, Caergybi, Llanfairfechan a Phrestatyn sydd hefyd wedi sefydlu canghennau YFA.
Meddai Terry Williams, Pennaeth Diogelwch Cymunedol Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Y mae lleihau marwolaethau ac anafiadau o ganlyniad i dân yn golygu mwy na darparu gwasanaeth tân effeithiol. Mae'n ymwneud ag atal y math o ymddygiad sy'n arwain at achosi tanau yn y lle cyntaf.
"Nod y YFA yw ymgysylltu gyda phobl ifanc a'u hannog i fod yn ddinasyddion gwell drwy ethos cadarnhaol y Gwasanaeth Tân ac Achub ynghyd â deall eu rôl mewn Cymdeithas. Mae aelodau'r YFA yn dod yn fwy ymwybodol o faterion diogelwch tân wrth ymgymryd â'u rôl fel cadetiaid, ac maent yn cael cymryd rhan mewn gweithgareddau megis ymarferion, ymweliadau, cystadlaethau, diogelwch cymunedol a digwyddiadau i godi arian. Rydym yn falch ein bod wedi sefydlu cangen ym Mhwllheli ac rydym yn edmygu ymroddiad Neil a'i gydweithwyr ac yr ymateb positif gan bobl ifanc yn y gymuned leol."
Dywedodd un cadét newydd, Dewi Williams, sydd yn 13 mlwydd oed ac o Bwllheli, ei fod wedi elwa o ymuno gyda'r sefydliad. Meddai: "Rydw i'n mwyhau bod yn rhan o'r YFA - 'da ni'n cael gwneud llawr iawn o bethau gwahanol a dwi wedi dysgu mwy am bwysigrwydd gweithio fel tîm yn ogystal â pheryglon tân yn y cartref."
Fe ychwanegodd Neil Shilvock, hyfforddwr YFA Pwllheli: "Mae'r ymateb gan y gymuned leol wedi bod yn wych ac rydym yn edrych ymlaen at recriwtio rhagor o gadetiaid ddechrau fis nesaf.
"Rydym yn cwrdd bob nos Fercher - rhowch wybod os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno!"
Gallwch gysylltu gyda Neil ar 07732590920 - neu fel arall cysylltwch gyda Sharon Bouckley, Cydlynydd y YFA ar 01745 352 693.