Wythnos Genedlaethol Diogelwch Sosbenni Sglodion
Postiwyd
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn erfyn ar i drigolion wneud i ffwrdd â'u sosbenni sglodion yn ystod Wythnos Genedlaethol Sglodion (17 - 23 Chwefror).
Meddai Terry Williams, Pennaeth Diogelwch Cymunedol: "Gall gadael sosban sglodion heb neb yn gofalu amdani, hyd yno oed am gyfnod byr iawn, fod yn drychinebus gan y gall yr olew orboethi'n hawdd a mynd ar dân.Mae coginio sglodion yn y popty neu ddefnyddio ffrïwr saim dwfn sydd gan thermostat i reoli'r tymheredd yn opsiynau llawer mwy diogel.
"Bydd sglodion ar y fwydlen yr wythnos hon, boed y rheiny'n sglodion o'r siop tships neu'n sglodion cartref - ond gall tân gynnau mewn ychydig eiliadau os na fyddwch yn canolbwyntio. Mae sglodion popty yn iachach ac yn fwy diogel, ond, os dewiswch ffrio'ch sglodion peidiwch â gadael y sosban heb neb yn goflau amdani. Os digwydd i'r sosban fynd ar dân, peidiwch â thaflu dŵr drosti - ewch allan, arhoswch allan a galwch 999."
Os byddwch yn dewis ffrïo'ch sglodion dilynwch y cynghorion canlynol bob amser i'ch helpu i gadw'n ddiogel:
- Peidiwch â gorlenwi'ch sosban ag olew - ni ddylech lenwi'r sosban â mwy na thraean o olew.
- Gofalwch na fydd y sosban yn gorboethi - gall olew poeth fynd ar dan yn gyflym iawn.
- Defnyddiwch ffrïwr saim dwfn sydd gan thermostat i reoli'r tymheredd fel na fydd yr olew yn mynd yn rhy boeth
- Peidiwch byth â thaflu dŵr ar sosban sglodion os aiff ar dân,
- Peidiwch â choginio os ydych wedi bod yn yfed alcohol.
- Os bydd tân, cadwch eich cynllun dianc mewn cof.
- Peidiwch â pheryglu'ch bywyd drwy geisio diffodd y tân eich hunan. Ewch allan, arhoswch allan a galwch 999.
- Gosodwch larymau mwg a phrofwch hwy bob wythnos.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tan yn y cartref am ddim lle bydd aelod o'r Gwasanaeth yn dod i'ch cartref, yn rhannu cynghorion diogelwch tân, yn eich helpu i lunio cynllun dianc a gosod larymau mwg newydd - a'r cyfan yn rhad ac am ddim. Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i bawb sydd yn byw yng Ngogledd Cymru.
I gofrestru am archwiliad diogelwch tan yn y cartref galwch ein llinell 24 awr ar 0800 169 1234, anfonwch e-bost i dtc@gwastan-gogcymru.org.uk neu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk.