Diwrnod Hwyl i hybu'r Gymraeg i deuluoedd ifanc yng Ngorsaf Dan y Rhyl
Postiwyd
Gwahoddir plant ifanc o'r Rhyl a'r cyffiniau i Orsaf Dân y Rhyl Ddydd Iau 20fed Tachwedd am ddiwrnod o hwyl.
Y mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Twf, Mudiad Meithrin a Menter Iaith Sir Ddinbych er mwyn trefnu diwrnod yn llawn gweithgareddau megis crefftau, amser stori, cyfle i gwrdd â Peppa Pinc a Dewin a thaith dywys o gwmpas Gorsaf Dân Gymunedol y Rhyl, a'r cyfan drwy gyfrwng y Gymraeg.
Meddai Nici Siôn, Cyfieithydd a Swyddog Cyswllt Iaith Gymraeg Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Fel Gwasanaeth rydym yn hybu'r Gymraeg yn rheolaidd a thrwy gynnal y digwyddiad hwn yng Ngorsaf Dân y Rhyl gall ei staff dwyieithog ddangos i'r ymwelwr bod dysgu Cymraeg o fantais wrth chwilio am waith. Dyma'r ail ddigwyddiad i ni ei drefnu - fe gynhaliom ddigwyddiad llewyrchus iawn y llynedd a daeth cannoedd o blant i fwynhau'r diwrnod.
Meddai Elin Jones, Swyddog Twf Sir Ddinbych, "Rydym yn falch iawn ein bod yn cael cyfle i gymryd rhan mewn digwyddiad fel hyn gyda chefnogaeth y Gwasanaeth Tân ac Achub.
Os ydych chi'n rhiant neu'ch bod ar fin dod yn rhiant, mae'n bwysig eich bod yn ystyried pa ieithoedd y byddwch chi'n eu cyflwyno i'ch plentyn. Mae dewis cyflwyno'r Gymraeg i'ch plentyn yn benderfyniad pwysig iawn - i rhieni, y plentyn a'r teulu cyfan. Y cyngor gorau posib yw rhoi cynnig arni cyn gynted â phosib a chymryd mantais o'r gefnogaeth sydd ar gael yn lleol. Y mae manteision lu ynghlwm â siarad mwy nag un iaith - y mae'r Gymraeg yn agor y drws i bob math o gyfleoedd yn cynnwys mwy o gyfleoedd yn y gweithle.
Y mae croeso i rieni gyda babanod neu blant ifanc ymuno gyda ni - dewch i gael hwyl gyda ni yn Gymraeg!"
Y mae'r sesiynau wedi eu trefnu ar gyfer rhieni a phlant ifanc am 10.30am a 1pm. Mae'r orsaf dân wedi ei lleoli ar Ffordd y Glannau y Rhyl.
Y mae croeso cynnes i bawb.