Tân mewn gwesty yn Llandudno
PostiwydMae diffoddwyr tân yn ymdrin â thân mewn gwesty yn Llandudno ar hyn o bryd.
Galwyd criwiau i'r digwyddiad am 20.11o'r gloch heno (Nos Sul 26ain Mai) yn dilyn adroddiadau bod tân yn nho Gwesty'r Alexandra Hotel ar Stryd Clonmel.
Roedd criwiau o Landudno, Conwy, Bae Colwyn a Llanfairfechan yn bresennol, ynghyd â'r peiriant cyrraedd yn uchel a'r uned meistroli digwyddiadau o'r Rhyl.
Fe ddefnyddiodd diffoddwyr tân chwe set o offer anadlu, tair pibell ddŵr ac un prif bibell i frwydro yn erbyn y fflamau a chwilio'r adeilad pum llawr.
Daethpwyd o hyd i'r holl westeion ac aelodau staff ac ni chafod unrhyw un ei anafu yn ystod y digwyddiad.
Y mae Stryd Mostyn yn parhau i fod ar gau i gerbydau.