Achub dyn o eiddo yn Amlwch
PostiwydCafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ei alw i dân mewn eiddo yn Amlwch am 3.30am y bore yma, Dydd Sul 3ydd Tachwedd.
Fe gadarnhaodd Chris Nott, rheolwr grŵp dros dro, bod dwy injan wedi ei hanfon o Amlwch i'r llety gwarchod ym Madryn Dysw. Fe ddefnyddiodd ddiffoddwyr tân offer anadlu i achub dyn 53 mlwydd oed.
Aethpwyd ag ef i Ysbyty Gwynedd mewn Ambiwlans wedi iddo gael archwiliad rhagofalol yn y fan a'r lle oherwydd ei fod wedi anadlu mwg.
Ni chafodd unrhyw un arall ei effeithio gan y tân, a oedd wedi ei gyfyngu i'r ystafell wely, ond fe achosodd y tân ddifrod mwg yng ngweddill yr adeilad.
Mae ymchwiliad i achos y tân ar y gweill.