Apêl i achwyn am losgwyr yn ardal Penmaenmawr
PostiwydMae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn apelio ar i drigolion ym Mhenmaenmawr fod yn wyliadwrus ac achwyn am losgwyr yn dilyn dau ddigwyddiad o losgi bwriadol yn yr ardal.
Roedd y ddau ddigwyddiad yn ymwneud â chynnau tanau mewn biniau olwynion ar Paradise Road, Penmaenmawr - digwyddodd y cyntaf o'r tanau hyn am 01.15 o'r gloch, Ddydd Llun 4ydd Mehefin a digwyddodd yr ail am 23.59 o'r gloch Ddydd Mawrth 5ed Mehefin. Fe achosodd y tanau ddifrod i fan chwarae pren ar gyfer plant bach.
Meddai Kevin Jones, Rheolwr y Tîm Lleihau Llosgi Bwriadol: "Mae troseddau fel hyn yn peryglu bywydau'r rhai sydd yn cymryd rhan yn y weithred yn ogystal â bywydau'r diffoddwyr tân sydd yn cael eu hanfon i ddiffodd y tanau.
"Rydym yn gweithio'n agos gyda thimau plismona lleol i fynd i'r afael â'r broblem o gynnau tanau bwriadol - mae llosgi bwriadol yn drosedd ddifrifol a byddwn ni, mewn cydweithrediad â Heddlu Gogledd Cymru, yn erlyn drwgweithredwyr."
Gofynnir i unrhyw un sydd gan wybodaeth am bobl sydd yn mynd ati i gynnau tanau bwriadol gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu yn ddienw drwy alw Crimestoppers ar 0800 555 111.