Tân Mewn Carafan Yng Nghaernarfon
PostiwydMae dau o bobl wedi cael eu cludo i'r ysbyty yn dilyn tân mewn carafán yng Nghaernarfon.
Digwyddodd y tân am 11.45 o'r gloch ar ddydd Gwener Mai 4 ym Mhlas Brereton yn Ffordd Bangor, Caernarfon.
Cafodd dyn 47 oed ei gymryd i Ysbyty Whiston ar gyfer triniaeth ar gyfer llosgiadau ac mae ei gyflwr yn cael ei ddisgrifio fel sefydlog.
Cafodd dynes 45 oed ei chymryd i Ysbyty Gwynedd am driniaeth am effeithiau anadlu mwg.
Mynychodd dau beiriant o Gaernarfon. Mae achos y tân yn cael ei ymchwilio.