Ffrwydrad Nwy Potel Amau Ym Morfa Bychan
PostiwydY mae dyn wedi cael ei gludo i'r ysbyty yn dioddef o losgiadau arwynebol i'w ddwylo yn dilyn ffrwydrad yn ei fyngalo ym Morfa Bychan, ger Porthmadog a ddigwyddodd tua 5.20 pm heddiw, Dydd Iau 2 Chwefror .
Galwyd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i'r digwyddiad yn Y Ffridd. Credir mai potel nwy a achosodd y ffrwydrad a ddymchwelodd rannau o'r adeilad un llawr.
Aethpwyd â'r dyn ganol oed i Ysbyty Gwynedd ym Mangor am driniaeth. Aeth dau bwmp o Borthmadog a Blaenau Ffestiniog ac un tendr o Gaernarfon i'r digwyddiad.
Dywedodd Terry Williams, Swyddog Cefnogi Digwyddiadau, bod ymchwiliad i achos y ffrwydrad ar y gweill.