Achub Tri o Bobl o Eiddo Yn Llandudno
PostiwydY bore yma (Dydd Mercher 15fed Chwefror), am 08:56am, galwyd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd i dân mewn adeilad yn Rhodfa'r Drindod, Llandudno
Anfonwyd criwiau o Landudno, Conwy a Bae Colwyn i'r digwyddiad a chafodd tri o bobl eu hachub o'r eiddo. Cafodd y tri eu cludo i'r ysbyty mewn ambiwlans. Mae dyn a dynes yn derbyn triniaeth yn yr uned ddwys ar ôl anadlu mwg ac y mae dyn arall yn yr ysbyty yn derbyn triniaeth i fân anafiadau.
Aethpwyd â diffoddwr tân i'r ysbyty yn ogystal ac yntau'n dioddef o effeithiau anadlu mwg, ond cafodd ei ryddhau o'r ysbyty yn ddiweddarach.
Roedd y tân dan reolaeth erbyn 10.15am ac y mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio i achos y tân.