Elusennau’n derbyn yr arian a godwyd yn ystod yr arddangosfa dân gwyllt
PostiwydDaeth elusennau lleol at ei gilydd yng Ngorsaf Dân Glannau Dyfrdwy neithiwr i dderbyn cyfanswm o £3350.000, sef yr arian a godwyd yn ystod yr arddangosfa dân gwyllt flynyddol a gynhaliwyd ar y 5ed o Dachwedd.
Roedd yr elusennau a dderbyniodd cyfran o'r arian yn cynnwys Hope 37, Cymdeithas Gymunedol Shotton, Elusen Canser Clatterbridge, Superkids Gogledd Cymru, Ysgol St Ethelwold, Ymchwil Canser Glannau Dyfrdwy, Tîm dan 8 Ellesmere Port, Grŵp Cymunedol Sealand Manor, Fforwm Anabledd Sir y Fflint, Cymdeithas Tenantiaid Manley Court, Glwb Nos Wener Plymouth Street, Nightingale House, Cyfeillion CAB Sir y Fflint, Cymdeithas Rieni ac Athrawon Ysgol Wepre, Cymdeithas Trigolion Y Fferi Isaf, D.A.F.F.O.D.I.L.S, Band Arian Glannau Dyfrdwy, Cymdeithas Plant Byddar Sir y Fflint, Chrysalis Trust Gogledd Cymru, Hannah Hughes ar ran Cancr Macmillan, Eye 2 Eye, Clwb Brodwaith Shotton, Hosbis y Bugail Da, Brownis 1af Shotton, Cadetiaid Awyr Penarlâg, Ambiwlans Sant Ioan, Elusen y Diffoddwyr Tân a'r Baby Grow Appeal.
Fe gyflwynwyd y sieciau i gynrychiolwyr o'r elusennau hyn gan Simon Smith, Prif Ddiffoddwr Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Meddai Nigel Sephton, Diffoddwr Tân o Lannau Dyfrdwy ac un o drefnwyr y noson:
"Fe ddaeth llawer o bobl i'r arddangosfa dân gwyllt eleni a hoffwn ddiolch i bawb am ddod ac am eu cyfraniad, sydd wedi ein galluogi i gyflwyno rhoddion i'r elusennau haeddiannol yma.
"Roedd yn bleser mawr gweld yr elusennau'n derbyn eu sieciau gan Simon Smith, y Prif Ddiffoddwr Tân. Hoffwn ddiolch hefyd i Fand Arian Glannau Dyfrdwy a chwaraeodd yn ystod y perfformiad, a'r holl gynrychiolwyr am ddod draw i dderbyn yr arian."
"Rydym yn falch iawn ein bod yn gweithio gyda thrigolion yng Ngogledd Cymru i'w cadw mor ddiogel â phosib, ac mae gweld yr arian yn mynd yn ôl i'r gymuned yn y modd hwn yn gwneud yr holl waith caled o drefnu'r noson yn werth yr ymdrech.