Tân yn Sandycroft
PostiwydMae criwiau o Lannau Dyfrdwy, Bwcle a Swydd Gaer wedi eu galw i dân mewn busnes ar Prince Williams Avenue, Sandycroft.
Ar hyn o bryd mae'r criwiau'n defnyddio 4 set o offer anadlu ac ewyn i geisio diffodd y tân.
Mae deg car wedi eu heffeithio gan y tân ac mae ymchwiliad i achos y tân ar y gweill.