Tân angheuol ym Mhrestatyn
PostiwydGalwyd diffoddwyr tân o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i dân mewn eiddo ym Maes y Groes, Prestatyn am 10pm ddydd Gwener 19eg Hydref 2012.
Fe anfonwyd dau griw o'r Rhyl ac un o Brestatyn i'r digwyddiad. Fe aeth diffoddwyr tân mewn offer anadlu i mewn i'r eiddo gan defnyddio pibellau dŵr i ddiffodd y tân a chwilio am unrhyw un a oedd wedi eu hanafu.
Ar ôl mynd i mewn i'r eiddo daeth y criwiau o hyd i bump o bobl a gafodd eu cludo i'r ysbyty gan barafeddygon. Cadarnhawyd fod dynes 20 mlwydd oes a dau o blant, bachgen bedair blwydd oed a merch ddyflwydd oed, wedi marw wedi hynny. Cafodd dyn 23 mlwydd oed a bachgen 15 mis oed eu trosglwyddo i ysbytai arbenigol am driniaeth.
Mae ymchwiliad ar y cyd i achos y tân yn cael ei gynnal rhwng Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru .
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi arestio dau o bobl mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Mae diweddariad pellach ar gael ar wefan Heddlu Gogledd Cymru http://www.north-wales.police.uk/news__appealsnbsp.aspx