Diffoddwyr Tân Yn Amlygu Peryglon Gadael Bwyd Yn Coginio
PostiwydMae Uwch Swyddog Tân yn dwyn i'r amlwg beryglon gadael bwyd yn coginio heb neb yn gofalu amdano ac yn erfyn ar i drigolion gadw llygaid ar deulu a chymdogion oedrannus neu fregus yn dilyn tri thân cegin mewn 24 awr.
Cafwyd tanau cegin yn Yr Wyddgrug, Llanarmon yn Iâl a Sandycroft a'r tri yn ymwneud â gwragedd oedrannus.
Galwyd criwiau i eiddo ar Phoenix Street, Sandycroft, Glannau Dyfrdwy am 08:56 o'r gloch y bore yma (Dydd Mercher 21) wedi i wraig oedrannus adael gridyll mewn popty heb ei ddiffodd. Yn ffodus iawn ni chafodd ei hanafu.
Fodd bynnag, derbyniodd gwraig arall driniaeth yn yr ysbyty ar ôl digwyddiad yn gynharach y bore yma. Galwyd criwiau i ddigwyddiad ar Ffordd Graianrhyd, Llanarmon-yn-iâl, yr Wyddgrug am 02:24 o'r gloch y bore yma (Dydd Mercher Rhagfyr 21) i ddiffodd tân a oedd wedi cychwyn ar bentan yn y gegin. Roedd y wraig 95 mlwydd oed yn dioddef o effeithiau anadlu mwg. Cafodd ei chludo i Ysbyty Maelor Wrecsam am driniaeth.
Ddoe, am 11:55 (Dydd Mawrth Rhagfyr 20),cafodd diffoddwyr tân eu galw i eiddo yn Sunny Ridge, yr Wyddgrug ar ôl cael eu hysbysu bod tân mewn microdon. Fe ymddengys bod y preswylydd 90 mlwydd oed, wedi gadael bwyd yn y ficrodon am yn rhy hir. Bu i'r criwiau awyru'r eiddo a ni chafodd y preswylydd ei hanafu.
Yn ffodus roedd larymau mwg gweithredol wedi eu gosod yn y tri eiddo.
Meddai Paul Scott o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Ynghanol prysurdeb y Nadolig mae'n hawdd iawn i bobl beidio â chanolbwyntio ar yr hyn y maent yn ei wneud a gall pethau dynnu eu sylw yn hawdd iawn. Mae'r gwyliau yn hirach eleni ac felly rydym yn annog pawb sydd yn byw yng Ngogledd Cymru i gymryd gofal a chadw llygaid ar eu ffrindiau a'u cymdogion.
"Mae'r tri digwyddiad hwn yn dwyn i'r amlwg beryglon gadel bwyd yn coginio heb neb yn gofalu amdano a phwysigrwydd cadw llygad ar ffrindiau a chymdogion i wneud yn siŵr eu bod yn cadw mor ddiogel â phosibl.
"Mae'n bwysig edrych i wneud yn siŵr a ydych wedi diffodd pop cyfarpar coginio ar ôl eu defnyddio a chofiwch beidio gadael bwyd yn coginio heb neb yn gofalu amdano. Rydym hefyd yn eich cynghori i beidio coginio os ydych wedi bod yn yfed alcohol - yn hawdd iawn gallwch eistedd i lawr a phendwmpian tra bod y bwyd ar y gwres yn coginio, ac mae'n bosib na fyddwch fyth yn deffro wedi hyn.
"Mae'r tanau hyn yn dwyn i'r amlwg bwysigrwydd larymau mwg. Os oes gennych larymau mwg, gwnewch yn siŵr eich bod yn eu profi'n rheolaidd. Os nad oes gennych larymau mwg, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref yn rhad ac am ddim. Bydd aelod o'r gwasanaeth yn ymweld â'ch cartref, yn rhannu cynghorion diogelwch tân, eich helpu i lunio cynllun dianc a gosod larymau mwg - a'r cyfan am ddim.
"Mae'r gwasanaeth hwn ar gael i bawb sydd yn byw yng Ngogledd Cymru. Rydym yn erfyn ar i bobl wneud yn siŵr eu bod hwy, eu teulu, eu ffrindiau a'u cymdogion wedi cael archwiliad diogelwch tân yn y cartref.
"I gofrestru am archwiliad diogelwch tân yn y cartref galwch ein llinell rhadffôn 24 awr ar 0800 169 1234, anfonwch e-bost i dtc@gwastan-gogcymru.org.uk neu ewch i www.gwastan-gogcymru.org.uk. Gall yr alwad achub eich bywyd chi a'ch anwyliaid."