Tân Angheuol Llandudno
PostiwydMae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau bod dyn yn ei chwedegau wedi marw yn dilyn tân mewn fflat yn Llandudno.
Cafodd yr heddlu a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i adeilad amlfeddiannaeth yn Stryd Mostyn, Llandudno am 7.00am ddydd Sul Ionawr 1af.
Llwyddodd hyd at 10 o bobl eraill oedd yn byw yn yr adeilad i ddianc yn ddianaf ond cadarnhawyd bod y dyn wedi marw yn y fan a'r lle.
Defnyddiwyd tri pheiriant tân ac un peiriant ag ysgol ac esgynlawr i drin y tân. Ni chredir bod y tân yn un amheus.
Mae'r ymchwiliad i union achos y tân yn parhau.