Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Hysbysiad Preifatrwydd Cyfathrebu Corfforaethol

Mae defnyddio a datgelu data personol yn cael ei lywodraethu yn y Deyrnas Unedig gan Ddeddf Diogelu Data 2018 (y Ddeddf).

Drwy roi caniatâd i’r gwasanaeth ddefnyddio eich delwedd/sylwadau i’w defnyddio mewn deunyddiau hyrwyddo, rydych chi'n deall y bydd eich data personol yn cael ei gasglu a'i brosesu at y diben hwn.

Gall y delweddau hyn ymddangos ar ein gwefan, cylchlythyrau, cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, yn ein deunyddiau printiedig a gynhyrchir at ddibenion hyrwyddo gan gynnwys taflenni, posteri a hysbysebion, mewn deunyddiau a anfonir at y cyfryngau, neu mewn adroddiadau i gyrff cyllido yn ogystal â chyhoeddiadau mewnol.

 

Pam mae angen i ni brosesu eich gwybodaeth?

Mae gennym rwymedigaethau o dan Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 sy'n cynnwys hyrwyddo diogelwch tân i aelodau’r cyhoedd. Er mwyn bodloni'r gofynion hyn, hoffem ddefnyddio eich delwedd fel rhan o ddeunyddiau hyrwyddo printiedig ac ar-lein.  Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio delweddau a sylwadau ar ein tudalen fewnrwyd fewnol a/neu ein gwefan neu fel rhan o adroddiadau swyddogol a gynhyrchir gan y gwasanaeth.

 

Pa fathau o ddata personol rydym yn eu prosesu?

Efallai y byddwn yn prosesu eich enw, cyfeiriad e-bost, lleoliad y ffotograff / ffilm, delwedd lonydd a symudol. Os mai plentyn sydd dan sylw, byddwn hefyd yn prosesu manylion cyswllt y rhiant/rhieni neu warcheidwad/gwarcheidwaid Dim ond y ddelwedd fydd yn cael ei chyhoeddi fel rhan o'r weithdrefn hon.

O ble rydym yn cael y data personol rydym yn ei brosesu?

Bydd y rhan fwyaf o'r data yn cael ei ddarparu gennych chi neu os mai plentyn sydd dan sylw, gan riant/gwarcheidwad.  Bydd delweddau'n cael eu darparu gan bersonél y gwasanaeth neu gennych chi.

 

Beth yw ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu data personol?

Ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich data at y diben hwn yw Cydsyniad Erthygl 6(1)(a) GDPR y DU.  Gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl ar UNRHYW adeg a gofyn i ni roi'r gorau i brosesu eich data. 

 

Pa fesurau diogelwch ydyn ni’n eu defnyddio wrth brosesu eich data personol?

Rydym yn cymryd ein cyfrifoldebau prosesu data o ddifrif a dim ond yn cofnodi'r lleiafswm o wybodaeth sy'n angenrheidiol at y diben gofynnol.  Pan fydd eich gwybodaeth yn cael ei chasglu'n ffisegol, bydd yn cael ei chadw nes iddi gael ei throsglwyddo i'n system gyfrifiadurol cyn cael ei dinistrio'n ddiogel.  Mae gwybodaeth a gedwir ar ein systemau cyfrifiadurol wedi’i diogelu mewn ffolderi gwarchodedig sy'n hygyrch i’n staff yn unig pan fydd angen iddynt ei phrosesu at y diben penodedig.

 

Pa ddatgeliadau rydyn ni'n eu gwneud ynghylch eich data personol?

Efallai y byddwn yn defnyddio eich delwedd ar ein gwefan neu ddeunydd hyrwyddo arall, yn gorfforol ac ar-lein, gan gynnwys ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.  Pan mae delweddau'n cael eu defnyddio ar-lein, byddwn yn cymryd pob cam angenrheidiol i gadw rheolaeth ar y ddelwedd. Fodd bynnag, dylid deall pan gaiff ei ddefnyddio ar-lein y gellid gweld y ddelwedd ar draws y byd.

 

Am ba mor hir ydyn ni'n cadw eich data personol?

Tra bod caniatâd yn cael ei gynnal byddwn yn cadw eich delwedd a'ch data am gyfnod o 10 mlynedd, ac wedi hynny bydd yn cael ei ddileu yn awtomatig.  Os byddwch yn tynnu caniatâd yn ôl, byddwn yn rhoi'r gorau i brosesu eich data ar unrhyw gyhoeddiadau yn y dyfodol ar unwaith.  Efallai na fydd bob amser yn bosibl dileu unrhyw brosesu blaenorol sydd eisoes yn y parth cyhoeddus.

 

Beth yw eich hawliau dros eich data personol yr ydym yn ei brosesu a sut gallwch chi eu harfer?

Hawl mynediad

  • Yr hawl i gywiro
  • Yr hawl i ddileu (lle bo'n berthnasol)
  • Yr hawl i gyfyngu ar brosesu
  • Yr hawl i wrthwynebu
  • Yr hawl i gludadwyedd data (lle bo'n berthnasol)
  • Yr hawl i dynnu caniatâd yn ôl
  • Yr hawl i gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Mae eich hawliau yn cael eu hesbonio’n llawn yn ein hysbysiad preifatrwydd cyffredinol, a gallwch ddod o hyd iddo yma.  Gallwch arfer yr holl hawliau perthnasol gan ddefnyddio'r manylion cyswllt a roddir isod.

 

Sut gallaf fynegi pryder am y defnydd o'm data personol?

Gallwch gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynghylch sut rydym yn prosesu eich data personol.

Post:

Swyddog Diogelu Data
Pencadlys Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
Ffordd Salesbury
Parc Busnes Llanelwy
Llanelwy
Sir Ddinbych
LL 17 0JJ

Ebostdpo@northwalesfire.gov.wales

Os ydych dal yn anfodlon mae gennych hawl i gysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth

 

Y Comisiynydd Gwybodaeth

Mae'r Comisiynydd Gwybodaeth yn gyfrifol am sicrhau ein bod yn cyflawni ein rhwymedigaethau a gellir cysylltu â nhw yn y ffyrdd canlynol:

Drwy'r post:

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF

Ar-lein ar: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

 

Dyddiad y diweddariad diwethaf

Diweddarwyd yr hysbysiad preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 9 Ebrill 2026. Rydym yn adolygu'r polisi preifatrwydd hwn yn rheolaidd ac yn ei ddiweddaru os bydd unrhyw ran o'r wybodaeth ynddo yn newid.

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen