
Dweud eich dweud! Ymgynghoriad Cynllun Gweithredu Rheoli Risg Cymunedol 26-27
Cael gwybod mwy
Coelcerthi yn yr Ardd
Cael gwybod mwyCoelcerthi yn yr Ardd
#DeallPeryglonDŵr
Cael gwybod mwy#DeallPeryglonDŵrApêl am ofal wrth i'r tymor llosgi rheoledig ddechrau
Helo – Jody McEachern dwi, Pennaeth Atal.
Mae'r tymor llosgi grug a glaswellt wedi dechrau ar y 1af o Hydref ac mae diffoddwyr tân yn annog ffermwyr, tirfeddianwyr a thrigolion ar draws y rhanbarth i gofio cymryd gofal ychwanegol ac i sicrhau eu bod yn rhoi gwybod i’r gwasanaeth tân ac achub os ydyn nhw'n llosgi ar eu tir.
Dywed y Cod mai dim ond rhwng y 1af o Hydref a'r 31ain o Fawrth mewn ardaloedd ucheldirol a rhwng y 1af o Dachwedd a'r 15fed o Fawrth mewn mannau eraill y caniateir llosgi.
Bydd llawer o ffermwyr yn manteisio ar y cyfle i losgi grug, glaswellt, rhedyn ac eithin ar eu tir nawr fod y tymor llosgi rheoledig wedi dechrau - rydym yn deall yr angen am hyn ond rydym am dynnu sylw at bwysigrwydd dilyn y Cod Llosgi Grug a Glaswellt ac i roi gwybod ini cyn ymgymryd ag unrhyw losgi rheoledig.
Yn ogystal â ffermwyr, rydym yn ymwybodol bod deiliaid tai weithiau yn llosgi sbwriel neu eitemau diangen ar eu tir, yn aml yn eu gardd gefn. Nid ydym yn cynghori yr arfer hwn ac rydwi’n rhybuddio y gall tanau ledaenu'n gyflym a gallant fod yn hynod anrhagweladwy.
Byddem yn apelio ar drigolion i waredu eu gwastraff yn gyfrifol a defnyddio safleoedd gwastraff awdurdodau lleol lle bo hynny'n bosibl - ni chaniateir llosgi sbwriel cartref yn gyffredinol gan y gall ryddhau sylweddau gwenwynig i'r awyr, gan niweidio iechyd a'r amgylchedd.
Os oes rhaid i chi losgi, dylai gynnwys gwastraff gardd sych yn unig. Dilynwch ein cyngor yma.
Newyddion diweddaraf
Cael gwybod mwy Cael gwybod mwy
Postiwyd
Lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar barhau i atal ac ymateb i danau ac argyfyngau eraill
Cael gwybod mwyLansio ymgynghoriad cyhoeddus ar barhau i atal ac ymateb i danau ac argyfyngau eraill






