Preifatrwydd
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi ymrwymo i warchod preifatrwydd ymwelwyr â'r wefan hon. Os byddwch yn rhoi gwybodaeth bersonol amdanoch eich hun i ni trwy'r wefan, dim ond ar gyfer darparu'r gwasanaeth rydych yn gofyn amdano y byddwn yn ei defnyddio. Wrth brosesu'r wybodaeth yn fewnol, bydd yn cael ei chadw'n ddiogel ac yn cael ei phrosesu'n gyfreithlon. Ni fyddwch yn rhannu eich manylion personol gyda phartïon eraill oni bai fod gofyn inni dan y gyfraith. Ni fyddwn fyth yn rhentru nac yn gwerthu eich gwybodaeth bersonol i bartïon eraill heb eich caniatâd.
Nid ni sy'n rheoli gwefannau sydd â dolenni ar y wefan hon -nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am eu cynnwys, ac rydym yn argymell eich bod yn edrych ar eu polisïau preifatrwydd hwy cyn rhoi unrhyw fanylion personol iddyn nhw.
Cwcis:
Cwcis ydi gwybodaeth y mae gwefan yn ei throsglwyddo i ddisg galed eich cyfrifiadur at ddiben cadw cofnod. Mae cwcis yn gallu gwneud y we'n fwy defnyddiol trwy gadw gwybodaeth am eich hoff bethau ar wefannau penodol, a galluogi perchnogion gwefannau i ddarparu nodweddion mwy defnyddiol ar gyfer eu defnyddwyr. Nid ydynt yn cynnwys unrhyw wybodaeth am enw na chyfeiriad, na gwybodaeth a fyddai'n galluogi neb i gysylltu â chi ar y ffôn, e-bost neu drwy ryw ffordd arall. Mae'r rhan fwyaf o borwyr wedi eu gosod i dderbyn cwcis. Os byddai'n well gennych, gallwch osod eich porwr i analluogi cwcis neu i roi gwybod ichi pan fyddant yn cael eu gosod. Er hynny, gan ein bod ni weithiau'n defnyddio cwcis, ni fyddwch yn gallu manteisio'n llwyr ar ein gwefan os byddwch chi yn eu hanalluogi nhw.