Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Amlygu ymgyrchoedd diogelwch cenedlaethol yng Ngwersyllt, Wrecsam

Postiwyd

Fe aeth staff o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i Ysgol Gynradd Gymunedol Gwersyllt, Wrecsam y bore yma i gefnogi dau ymgyrch cenedlaethol.

Mae'r ddau ymgyrch yn cael eu cynnal ar draws Cymru - Wythnos Diogelwch Plant (1-7 Mehefin), sef ymgyrch gan yr Ymddiriedolaeth Atal Damweiniau ymysg Plant i godi ymwybyddiaeth o ddamweiniau a sut i'w hosgoi, a GoSafe sydd yn amlygu'r rheol "20mya y tu allan i ysgolion" i addysgu gyrrwr am bwysigrwydd cadw at y cyfyngder gyrru perthnasol.

Meddai Brian Williams o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Rydym yn awyddus i annog rhieni, gwarcheidwaid neu ofalwyr i feddwl am y modd y gallant amddiffyn eu plant a'r modd y mae pobl sydd yn gwrthod cadw at y rheol 20mya yn rhoi plant mewn perygl, a bod modd i yrwyr gael eu herlyn."
 
Mae GoSafe yn canolbwyntio ar orfodi'r rheol 20mya y tu allan i ysgolion drwy gydol  fis Mehefin i gynyddu'r nifer o bobl sydd yn cadw at y cyfyngder gyrru ac sydd yn cyfrannu tuag at ffyrdd mwy diogel yng Nghymru.

Yn ôl y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau  (ROSPA) mae rhywun sy'n cael ei daro gan gerbyd sy'n teithio 30 mya 20% yn fwy tebygol o ddioddef anaf angheuol, ond y mae hyn yn gostwng i 2.5% os bydd y cerbyd yn teithio 20mya.
 
Meddai Brian: "Fe aeth staff o'r Prosiect Chwyldro i'r ysgol. Mae'r Prosiect yn brosiect ar y cyd rhwng Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru sydd yn defnyddio dulliau rhagweithiol i addysgu pobl am ddiogelwch ffyrdd.  Roeddem am helpu gyrwyr i aros, meddwl ac arafu, ac annog pobl leol sy'n defnyddio'r ffordd i barchu ei gilydd a'r gymuned yn well.

"Rydym hefyd yn awyddus i helpu trigolion i gadw'r teulu cyfan yn ddiogel yn y cartref drwy ofyn iddynt wneud yn siwr bod ganddynt larwm mwg gweithredol.

"Rydym ni'n cynnig archwiliadau diogelwch tân yn y cartref rhad ac am ddim lle byddwn yn rhoi cyngor i chi ar ddiogelwch tân, eich helpu i lunio cynllun dianc a gosod larymau mwg newydd lle bo angen - ffoniwch ein rhif rhadffôn 0800 169 1234 neu anfonwch e-bost i dtc@gwastan-gogcymru.org.uk."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen