Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn ymuno yn yr ymgyrch genedlaethol, wythnos o hyd, i helpu galwyr mewn argyfwng “#KnowExactlyWhere” gyda’r ap what3words,

Postiwyd

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn annog y cyhoedd i lawrlwytho'r ap am ddim, i'n helpu i ddod o hyd i chi mewn argyfwng.

 

O heddiw ymlaen, sef dydd Llun 26 Gorffennaf tan ddydd Sul 1 Awst, bydd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cymryd rhan yn ymgyrch diogelu’r haf, #KnowExactlyWhere, i godi ymwybyddiaeth o'r ap what3words am ddim, a sut y gellir ei ddefnyddio'n effeithiol mewn argyfwng. Bob blwyddyn, mae'r gwasanaethau brys yn ymuno ag awdurdodau lleol a sefydliadau o bob rhan o'r DU i annog y cyhoedd i lawrlwytho'r ap fel ffordd syml o arbed amser, adnoddau, ac mewn rhai achosion, bywydau.

 

Eleni yn fwy nag erioed, mae'r gwasanaethau brys ar draws y DU yn paratoi ar gyfer haf eithriadol o brysur, gan fod cyfyngiadau ar deithio rhyngwladol wedi arwain at gynnydd enfawr mewn Prydeinwyr yn dewis gwyliau yn y DU. Mae lawrlwytho’r ap what3words yn un o'r camau mwyaf syml y gall y cyhoedd eu cymryd i gefnogi ystafelloedd rheoli argyfwng sydd dan bwysau.

 

Mae what3words, ar gael ar iOS ac Android. Mae wedi rhannu’r byd yn gridiau maint 3m x 3m sgwâr a’u labelu gyda thri gair: sef cyfeiriad what3words. Er enghraifft, bydd ///anyway.lend.give, yn mynd â chi i’r union sgwâr ar Bromsgrove Highway lle cafodd dyn drawiad ar y galon ym mis Ebrill 2021 tra bod ei fab yn gyrru. Drwy ddefnyddio'r cyfeiriad what3words hwn, roedd ei fab yn gallu cyfeirio'r gwasanaeth ambiwlans yn gyflym at ei union leoliad, ac fe ddywedont heb os nac oni bai, bod hyn wedi achub bywyd ei dad.

 

Mae'r ap yn rhad ac am ddim i'w lawrlwytho ar iOS ac Android, ac mae'n gweithio'n gyfan gwbl heb fynediad i’r rhyngrwyd – sy’n ei wneud yn ddelfrydol i'w ddefnyddio mewn rhannau o'r DU sydd heb gysylltiad data da iawn, fel traethau, parciau cenedlaethol a safleoedd gwersylla sy'n hynod boblogaidd yn ystod misoedd yr haf.  Gellir defnyddio what3words drwy'r map ar-lein hefyd - what3words.com. Mae'r ap ar gael mewn dros 45 o ieithoedd, gan gynnwys y Gymraeg, a gellir ei ddefnyddio unrhyw le yn y byd.

 

Erbyn hyn, mae what3words yn cael ei ddefnyddio gan dros 85% o wasanaethau brys y DU - yr heddlu, tân ac ambiwlans - ac yn ôl yr holl wasanaethau a adolygwyd, mae’r ap yn ‘adnodd dibynadwy i’w ddefnyddio fen rhan o’r pecyn cymorth brys’. Er nad oes disgwyl iddo gymryd lle’r cyfarpar goroesi hanfodol traddodiadol, sy’n werth ei gludo ar bob taith gerdded, trip gwersylla, ac anturiaeth awyr agored arall yr haf hwn, mae’r dechnoleg wedi dod yn adnodd a ddefnyddir yn helaeth gan y gwasanaethau brys, gan arbed amser ac adnoddau gwerthfawr i’r cydlynwyr ac ymatebwyr mewn argyfwng. 

 

'Ble mae'r argyfwng?' yw un o'r cwestiynau cyntaf a ofynnir i chi wrth ffonio 999, ond mae dweud yn union lle rydych chi yn gallu bod yn heriol. Gall argyfyngau ddigwydd yn unrhyw le, o draeth anghysbell yn yr Alban, i ochr yr M1, neu ganol Parc Hyde. Yn aml, nid ydy gwasanaethau’n gallu darganfod ble rydych chi'n awtomatig ac weithiau,  mae lle gollyngir y pin ar fap yn anodd i’w egluro dros y ffôn. Ceir gwallau ar ddisgrifiadau tirnod - gall pobl ddisgrifio'r rhain yn anghywir ac mae cyfesurynnau GPS yn hir ac yn anodd i’w cyfathrebu. Ar y gorau, mae hyn yn dreth rwystredig ar adnoddau. Ar y gwaethaf, gall hyn olygu'r gwahaniaeth rhwng byw a marw.

 

 

Mae'r gwasanaethau brys wedi'u hyfforddi i gasglu cymaint o wybodaeth am leoliadau â phosibl gan alwyr, ac mae ganddynt fynediad at nifer o wahanol dechnolegau a dulliau sy'n eu helpu i ddod o hyd i leoliadau galwyr - gyda what3words yn un ohonynt. Mewn arolwg gwirfoddol diweddar o 18 o ystafelloedd rheoli gwasanaethau brys ar draws y DU, cytunodd 89% bod what3words yn 'adnodd hanfodol i'r cyhoedd ei gael ar eu ffonau yr haf hwn'.

 

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi bod yn defnyddio what3words ers 2019. Mae wedi cael ei ddefnyddio sawl gwaith i'n helpu i sicrhau bod ein hadnoddau'n cael eu hanfon i’r union leoliad lle mae rhywun angen help, mewn chwinciad.

 

Meddai Chris Sheldrick, cyd-sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol what3words, 'Mae bod angen cymorth brys a methu disgrifio'n hawdd lle mae angen help yn gallu bod yn ofidus iawn i'r galwr, ac yn sefyllfa anodd iawn i'r gwasanaethau brys. Heddiw, mae gan bobl eu ffonau arnynt bron bob amser. Cyn haf prysur, gyda Phrydeinwyr yn mynd ar wyliau gartref, mae angen i ni ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael i ni i wella gwasanaethau cyhoeddus, cefnogi canolfannau rheoli argyfwng ac o bosibl, achub bywydau.'

 

Dywedodd Peter Davis, Uwch Bennaeth Rheoli a TGCh Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: "Rydym yn annog y cyhoedd i lawrlwytho'r ap what3words ar eu ffonau clyfar.

"Gellir defnyddio'r ap mewn sefyllfaoedd brys, ac mae’n gymorth defnyddiol hefyd i unrhyw un sydd angen gwell dealltwriaeth o'u lleoliad.

"Gall What3words leihau faint o amser sydd yn cael ei dreulio yn tynnu sylw at leoliad tân, a chaniatáu i griwiau daclo’r tân cyn iddo ymledu.

"Mae'n wych gweld technoleg newydd yn cael ei datblygu sy'n hygyrch i'r rhan fwyaf ohonom, ac sy'n gallu gwneud gwahaniaeth mawr mewn cyfnodau o angen."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen