Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Tân ym Mhentraeth - Diweddariad

Postiwyd

Mae diffoddwyr tân yn dal yn bresennol mewn tân mewn gorsaf danwydd ar yr A5025 ym Mhentraeth, Ynys Môn. Cafwyd yr alwad gyntaf am 04.03am y bore hwn (Dydd Gwener 3ydd Ebrill).

Mae peiriannau o Borthaethwy, Llangefni, Biwmares a dau o Fangor ynghyd â'r llwyfannau ysgol o Fangor a'r Rhyl, yr uned meistrioli digwyddiad o'r Rhyl a chludydd dwr o Gaernarfon yn bresennol yn y digwyddiad.

Mae diffoddwyr tân wedi bod yn delio â'r tân gan ddefnyddio offer anadlu, chwistrellwyr prif gyflenwad dâr a monitoau daear. Mae Stâd Nant y Felin wedi ei gwagio ac mae trigolion wedi eu symud i'r ysgol gynradd ym Mhentraeth.

Mae'r A5025 ar gau ym Mhentraeth a gofynnir i'r cyhoedd osgoi'r ardal.

Mae criwiau ar hyn o bryd yn tampio'r ardal a byddant yn parhau i wneud hynny am o leiaf dair i bedair awr arall.

Bydd y ffordd ar gau a'r ardal wedi ei gwagio nes rhoddir rhybudd pellach.

Meddai Gary Brandrick, Uwch Swyddog Diogelwch Tân: "Y flaenoriaeth oedd cadw'r tân dan reolaeth.

"Canolbwyntiodd ein diffoddwyr tân ar gadw'r tân dan reolaeth, yn enwedig o ystyried pa mor agos y mae eiddo arall, a buont yn gweithio'n ddiflino i sicrhau nad oedd y tân yn ymledu i'r pympiau petrol.

"Unwaith y byddwn wedi diffodd y tân yn llwyr, byddwn yn cychwyn ar archwiliad, ar y cyd â Heddlu Gogledd Cymru, i ganfod union achos y digwyddiad."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen