Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Mrs Hapwood yn bagio gwerth £100 o dalebau yng nghystadleuaeth coginio Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru!

Postiwyd

Roedd Mrs Hapwood wrth ei bodd ei bod wedi ennill gwerth  £100 o dalebau archfarchnad ar ôl i'w hen gael ei ddewis ar hap y ein cystadleuaeth coginio yn ddiweddar, sef yr ymgyrch 'Peidiwch â'n gwahodd ni i ginio!'. Fel rhan o'r ymgyrch fe aeth staff i archfarchnadoedd ar hyd a lled sir Wrecsam lle buont yn cwblhau cwisiau gyda siopwyr - roedd amserydd cegin ar gael yn rhad ac am ddim i bawb a gymerodd ran.

Gall  trigolion gwblhau'r cwis ar-lein drwy fynd i www.facebook.com/Northwalesfireservice <http://www.facebook.com/Northwalesfireservice> am gyfle i ennill gwerth £100 o dalebau archfarchnad a bydd staff hefyd yn ymweld â'r archfarchnadoedd canlynol yn Sir y Fflint ar y dyddiau canlynol.

Byddwn yn ymweld â Sir Ddinbych ac Ynys Môn eto cyn diwedd y flwyddyn - cadwch lygaid am ddyddiadau a lleoliadau!

Ymweliadau i archfarchnadoedd yn Sir y Fflint:

Sainsburys y Fflint - Dydd Gwener 4ydd Gorffennaf

Asda y Fferi Isaf - Dydd Gwener 18fed Gorffennaf

Tesco yr Wyddgrug  - Dydd Gwener 25ain Gorffennaf

Sainsburys y Fflint - Dydd Gwener 1af Awst

Asda y Fferi Isaf - Dydd Gwener 8fed Awst

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen