Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

<p>North Wales Fire and Rescue Service is reminding landowners of the importance to 'call us before you burn!'.</p> <p> </p> <p>Staff from the fire and rescue service have been busy visiting livestock markets across the region in recent months to encourage landowners to take on board some basic safety procedures and notify the fire and rescue service before they conduct their burn.</p> <p> </p> <p>The Heather and Grass Burning Code states that burning is allowed only between the 1<sup>st</sup> o

Postiwyd

 

 

Mae Gwasanaeth Tân ac achub Gogledd Cymru yn atgoffa tirfeddianwyr i 'alw cyn llosg'!

 

Mae staff o y gwasanaeth tân ac achub wedi bod yn ymweld â marchnadoedd anifeiliaid ar hyd a lled y rhanbarth dros y misoedd diwethaf  er mwyn atgoffa tirfeddianwyr i wrando ar gynghorion sylfaenol a rhoi gwybod i'r gwasanaeth tân ac achub cyn llosgi .

 

Mae'r Rheolau Llosgi Grug a Glaswellt yn dynodi mai dim ond rhwng 1af Hydref a 31ain Mawrth y caniateir llosgi ar uwchdiroedd a  rhwng 1af Tachwedd a 15fed Mawrth ymhobman arall.

 

Mae  nifer o ffermwyr wedi bod yn manteisio ar y cyfle i losgi grug, rhedyn ac eithin dan reolaeth ar eu tir.

 

Ond yn amlwg mae nifer o dirfeddianwyr yn parhau i losgi y tu allan i'r tymor hwn gan fod Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn parhau i gael ei alw i nifer o danau sydd wedi mynd tu hwnt i reolaeth.

 

Cafwyd un digwyddiad o'r fath ym mis Ebrill ar Fynydd Gobaith ger Wrecsam.  Llosgwyd 300 medr sgwâr o eithin ac bu diffoddwyr tân yn gweithio am dros 6 awr er mwyn ceisio dod â'r tân dan reolaeth drwy ddefnyddio curwyr a phibelli dŵr.

 

MeddaiGary Brandrick, Uwch Reolwr Diogelwch Tân: "Mae hi wedi bod yn eithaf sych yn ddiweddar ac mae  hyn yn ei gwneud yn haws i danau ledaenu. Mae tanau fel hyn yn cael eu cynnau mewn ardaloedd sydd yn anodd eu cyrraedd a lle mae'r cyflenwad ddŵr yn brin - gall tân sydd allan o reolaeth roi pwysau mawr ar adnoddau, gan y bydd diffoddwyr tân yn brysur am beth amser yn ceisio dod â'r tân dan reolaeth. Gall y tanau hyn beryglu cartrefi ac anifeiliaid heb sôn am fywydau'r criwiau a thrigolion gan na fydd diffoddwyr tân ar gael i ymateb i ddigwyddiadau brys gwirioneddol.  

 

Gofynnwn i ffermwyr ddilyn y canllawiau isod os ydynt yn bwriadu llosgi dan reolaeth:

 

- Sicrhewch fod digon o bobl o gwmpas a bod offer digonol ar gael rhag ofn i chi golli rheolaeth ar y tân.

- Edrychwch i ba gyfeiriad y mae'r gwynt yn chwythu i sicrhau nad oes perygl i eiddo, ffyrdd a bywyd gwyllt

-Os collwch reolaeth ar y tân cysylltwch â'r gwasanaeth tân yn syth gan roi manylion lleoliad a mynediad.

- Mae'n anghyfreithlon gadael tân heb neb yn arofalu amdano neu beidio â chael digon o bobl i'w gadw dan reolaeth. - Gwnewch yn siŵr fod y tân wedi diffodd yn llwyr cyn gadael a dychwelwch i'r fan y diwrnod canlynol er mwyn gwneud yn siŵr nad ydyw wedi ailgynnau."

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen