Defnyddir BSL Yma BSL Used Here

Streic ddiweddaraf y diffoddwyr tân yn dod i ben a’r ‘gwasanaeth arferol’ yn cael ei adfer

Postiwyd

 

Daeth y cyfnod o weithredu diwydiannol gan ddiffoddwyr tân yng Nghymru a Lloegr i ben am 8am y bore yma (Dydd Llun 4ydd Tachwedd).

 

Dyma'r trydydd cyfnod o weithredu diwydiannol gan Undeb y Brigadau Tân (FBU) sydd yn protestio yn erbyn cynlluniau'r Llywodraeth ar gyfer pensiynau.  .

 

Fe ddywedodd y Prif Swyddog Tân Simon Smith fod Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi rheoli ei wasanaeth yn effeithiol yn ystod y streic.

 

"Yn amlwg roedd llai o adnoddau ar gael i ni, ond fe roesom ein cynlluniau parhad busnes ar waith yn effeithiol ac yn syth wedi i'r streic ddod i ben fe lwyddom i adfer y gwasanaeth arferol yn gyflym a diogel.

 

"Hoffwn fachu ar y cyfle i ddiolch i'r cyhoedd am eu cydweithrediad ac am wrando ar ein negeseuon diogelwch - nid oedd yn rhaid i ni fynychu unrhyw ddigwyddiadau yn ystod y ddwy awr.

 

"Er bod y streic drosodd, nid yw'n glir hyd yma a fydd rhagor o weithredu diwydiannol ac felly hoffwn atgoffa pobl ei bod hi'n bwysig dros ben eu bod yn cymryd sylw o ddiogelwch tân a ffyrdd.

 

Y mae cyngor ar sut i gadw'n ddiogel ar gael drwy fynd i www.gwastan-gogcymru.org.uk <>

 

Twitter Facebook YouTube Instagram

Diolch am rannu'ch cyfeiriad ebost

Byddwn yn darparu'r wybodaeth addas i chi maes o law

Wedi gorffen

Diolch am eich cais

Wedi gorffen